Mae Morgannwg wedi colli o fatiad a 42 rhediad yn y Bencampwriaeth yn Durham.
Ar ôl i Dan Douthwaite (96) ac Andrew Salter, oedd heb fod allan ar 82 ar ddechrau’r diwrnod, frwydro’n galed, roedd angen 73 yn rhagor ar Forgannwg i orfodi Durham i fatio am yr ail waith yn y gêm.
Ond collodd Morgannwg eu tair wiced olaf o fewn awr gynta’r dydd, gyda Salter wedi’i ddal gan y wicedwr Ned Eckersley oddi ar fowlio Paul Coughlin am 90.
Dyna ddechrau’r diwedd i Forgannwg, mewn gwirionedd, wrth i Lukas Carey ddilyn yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan Chris Rushworth.
Ac fe wnaeth Durham gau pen y mwdwl ar y fuddugoliaeth pan gafodd Michael Hogan ei ddal gan Eckersley, oddi ar fowlio Coughlin unwaith eto, a hwnnw’n gorffen gyda phum wiced am 64 yn y batiad.
Roedd Morgannwg i gyd allan am 364, felly, gan ddod â gornest siomedig arall i ben.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg bellach wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf o fatiad a mwy.
Roedd yr ysgrifen ar y mur yn gynnar iawn yn yr ornest, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 97 yn eu batiad cyntaf, ac fe wnaeth Durham fanteisio ar hynny wrth sgorio 503 am wyth cyn cau’r batiad i osod cryn her i Forgannwg wrth geisio achub yr ornest.