Mae Gleision Caerdydd yn croesawu llu o chwaraewyr rhyngwladol yn ôl i’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Caerfaddon.

Hon yw’r gêm olaf cyn i’r tymor ddechrau a bydd hi’n cael ei chwarae ym Mharc yr Arfau ddydd Gwener (10 Medi), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh.

Josh Turnbull, a ddychwelodd i’r llwyfan rhyngwladol dros yr haf, fydd capten y tîm ac mae Will Boyde yn ymuno ag ef yn y rhes gefn.

James Ratti fydd yr wythwr wrth i Seb Davies Rory Thornton chwarae yn yr ail-reng.

Mae’r Cymry Hallam Amos ac Owen Lane yn chwarae ynghyd â Jason Harries fel y tri cefnwr.

Bydd Rhys Priestland yn gwneud ei ymddangosiad cartref cyntaf i Gaerdydd yn erbyn ei gyn-glwb, gyda Lloyd Williams yn safle’r mewnwr.

“Corfforol”

“Rydym yn disgwyl sialens fawr a bydd yn rhaid i ni gystadlu gyda’ nhw’n gorfforol,” meddai Dai Young, cyfarwyddwr rygbi Caerdydd.

“Os nad ydym yn gwneud hynny, cawn ein curo, ond os ydym yn llwyddo i wneud hynny mae gennym gyfle.

“Byddwn yn dangos y parch y maen nhw’n haeddu iddynt ond ar hyn o bryd rydym yn poeni pwy amdanom ni’n hunain.

“Mae’r rhan fwyaf o’n chwaraewyr rhyngwladol yn ôl gyda ni felly bydd hi’n grêt ei gweld nhw’n chwarae.”

Y Tîm: Hallam Amos; Owen Lane, Rey Lee-Lo, Max Llewellyn, Jason Harries; Rhys Priestland, Lloyd Williams; Corey Domachowski, Liam Belcher, Dmitri Arhip, Seb Davies, Rory Thornton, Josh Turnbull (capten), Will Boyde, James Ratti

Eilyddion: Kirby Myhill, Rhys Carré, Dillon Lewis, Shane Lewis-Hughes, Ellis Jenkins, Ellis Bevan, Jason Tovey, Matthew Morgan, Alun Lawrence, Garyn Smith, Willis Halahol