Byddai Gary Speed, cyn gapten a rheolwr Cymru, wedi dathlu ei ben-blwydd yn 52 oed heddiw.

Chwaraeodd i Gymru rhwng 1990 a 2004, gan ennill 85 o gapiau a sgorio saith gôl.

Cafodd ei benodi yn rheolwr yn Rhagfyr 2010 ac roedd yn gyfrifol am arwain newidiadau chwyldroadol yn y ffordd yr oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gweithredu.

Er i’w yrfa fel rheolwr Cymru ddechrau’n sigledig, gyda Chymru’n disgyn i 117eg safle yn y byd ar ddechrau 2011, gwellodd pethau’n arw gyda Chymru yn ennill pedair o’i pum gêm olaf y flwyddyn honno.

Ond wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, daeth y newyddion erchyll ei fod wedi marw ar 27 Tachwedd.

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd, mae’r cyflwynydd Dylan Ebenezer wedi bod yn trafod ei ddylanwad ar bêl-droed Cymru gyda golwg360.

“Weithiau, dydy chi ddim yn sylweddoli dylanwad rhywun ar y pryd,” meddai.

“Mae’n gallu cymryd cyfnod o amser, neu ddigwyddiad ofnadwy fel marwolaeth i chi werthfawrogi beth wnaethon nhw gyflawni.

“Fel chwaraewr – dw i tua phum mlynedd yn iau nag ef – dw i jyst yn ei gofio fel y chwaraewr mwyaf cŵl erioed.

“Roedd o mor olygus, gyda gwallt hir, ac roedd o’n osgeiddig yn mynd drwy ganol y cae.

“Roedd o’n chwaraewr gwych ac fe wnaeth o gyfraniad enfawr fel chwaraewr i Gymru.

“A beth dw i’n hoffi amdano fe yw’r ffaith ei fod o wedi aberthu ei hun er lles y tîm.

“Pan oedd Mark Hughes angen cefnwr chwith, bydde fe’n mynd nôl i chwarae yn yr amddiffyn.

“Roedd yno steil yn perthyn iddo fe fel chwaraewr ac fel person . . . roeddwn i’n ffan mawr ohono.”

“Dylanwad”

“Dw i’n meddwl bod y gwaith nath e yn y dyddiau cynnar fel rheolwr – doedd o ddim mor hir â hynny yn ôl – ond mae’r ffaith ei fod o wedi cael gymaint o ddylanwad mewn amser byr yn dangos beth nath e gyflawni.

“Yn hanes diweddar pêl-droed Cymru mae’n rhaid cofio beth wnaeth John Toshack yn dod a chwaraewyr ifanc drwodd, ond yr ochr arall y geiniog ydi bod dim llawer o ddewis ganddo gan fod Toshack wedi ffraeo gyda phawb.

“Felly roedd hynna wedi helpu Gary Speed dw i’n credu gan fod y criw ifanc talentog yma’n dod trwyddo.

“Ond daeth e mewn, a lle’r oedd dulliau Toshack yn hen ffasiwn roedd gan Gary Speed ffordd newydd o edrych ar bethau a dulliau hyfforddi newydd.

“Roedd ganddo syniadau gwahanol oddi ar y cae o ran paratoi a pharatoi’r chwaraewyr . . . roedd popeth yn teimlo’n ffres ac yn gyffrous.

“Fe wnaeth o wahaniaeth enfawr a gosododd y sylfaen ar gyfer beth ddigwyddodd wedyn gyda Chris Coleman dw i’n credu.”

“Sioc”

“Roeddwn i’n lwcus, nes i holi fe llwyth o weithiau ac roedd o’n berson hollol hyfryd,” meddai wedyn.

“Dim ffys, dim ffwdan, wastad yn hapus i siarad gyda ni.

“Mae rhai pobol yn edrych ar eu horiawr yn syth pan ti’n cerdded i mewn i’r ystafell, ond roedd ganddo wastad amser i bawb a wastad yn hapus i drafod oddi ar y camera ac ati.

“Mae’n gwneud popeth ddigwyddodd yn fwy o sioc rili achos dydy chi byth yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen ym mywydau pobol.

“Ar y wyneb roedd o jyst yn foi hyfryd, boi ffeind ac roedd hi’n bleser ei holi fe.”