Wout van Aert oedd yn fuddugol yng nghymal pedwar o ras Tour Prydain.

Roedd y seiclwyr yn dechrau yn Aberaeron ac yn teithio 210 cilomedr i’r Gogarth ger Llandudno heddiw (8 Medi).

Fe enillodd van Aert o Wlad Belg o drwch blewyn ar ôl ras wibio galed gyda Julian Alaphilippe i fyny’r Gogarth.

Cymry yn serennu

Roedd y Cymro Gruff Lewis o dîm Ribble Weldtite wedi arwain y dihangiad drwy ei dref enedigol Aberystwyth.

Fe lwyddodd i aros yn y dihangiad ar flaen y ras tan Dolgarrog ger Llanrwst, ond fe wnaeth y peloton eu dal nhw bryd hynny.

Adeg hynny, fe wnaeth y timau mawr brofi eu cryfder, gydag Ineos a Chymro arall, Owain Doull, yn arwain y ras wrth iddyn nhw gyrraedd y Gogarth.

Y peloton drwy ganol Aberystwyth, yn cynnwys y Cymro, Owain Doull (ail o’r dde)

Wout van Aert sydd bellach yn arwain y ras ar ôl heddiw, gydag Ethan Hayter ail, a Julian Alaphilippe yn drydydd.

Bydd y cymal yfory yn mynd o Barc Alderley i Warrington yn Swydd Caer.