Sut? Sut ddaru Cymru ddim ennill? Dyna’r cwestiwn fydd ar feddwl pob cefnogwr, pob chwaraewr ac yn wir y rheolwr Rob Page.

Mae’n debyg nad ydi Cymru wedi chwarae cystal ers peth amser, a byddai wedi bod yn hawdd colli cyfrif o’r cyfleoedd gawson nhw i sgorio.

Cyn y gic gyntaf roedd y Wal Goch yn gorfoleddu o gael bod yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl 18 mis hir, gyda chlasurol megis ‘Viva Gareth Bale’ yn cael ei bloeddio o stand Canton.

Roedd yno awyrgylch hyderus yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Belarws, gyda sawl un yn teimlo y gallai Cymru gadw’r momentwm i fynd ar ôl ennill mewn modd mor ddramatig ddydd Sul (5 Medi).

Ac yn wir, roedd hwn yn berfformiad llawer iawn gwell nag allan yn Kazan, gyda thîm Rob Page yn chwarae pêl-droed campus ar adegau.

Ond ni lwyddodd Cymru i wneud y peth pwysicaf – sgorio.

Daeth un o gyfleoedd gorau’r gêm yn y munud cyntaf, wrth i Chris Gunter wibio heibio’i ddyn a rhoi’r bêl ar blat i Harry Wilson.

Ond ni lwyddodd hwnnw i hitio’r targed, gan ergydio’r bêl heibio’r postyn.

Roedd Daniel James yn fygythiad cyson lawr yr asgell chwith yn y munudau cynnar, ac roedd amddiffynnwr dde Estonia, Sander Puri, yn ei chael hi’n anodd delio â’r Cymro.

Cafodd gerdyn melyn wedi 23 munud ar ôl i Ben Davies chwarae’r bêl i Daniel James lawr yr asgell chwith, cyn i hwnnw dynnu hi’n ôl a gorfodi Saner Puri i’w dynnu i lawr.

Ac yn wir, bum munud yn ddiweddarach roedd y gŵr o Estonia’n cael ei eilyddio – er mai anaf oedd yn gyfrifol am y newid.

Bu’n rhaid i Gymru eilyddio chwe munud yn ddiweddarach pan aeth Harry Wilson lawr yn cydio yn ei goes, gyda Jonny Williams yn dod ymlaen yn ei le.

Collodd Cymru eu siâp am funud neu ddau wedyn, a bu bron iddyn nhw dalu’n ddrud wrth i Mattias Kait hitio’r bar gydag ergyd fendigedig oedd wedi cael y gorau o Danny Ward.

Wrth i’r chwaraewyr redeg i mewn ar hanner amser, roedd Cymru wedi mwynhau mwy o’r meddiant a chreu mwy o gyfleoedd ond roedd y ddau dîm wedi dod yn agos i sgorio.

Yr Ail Hanner

Dechreuodd Cymru’r ail hanner ar y droed flaen, gyda Jonny Williams a Ben Davies yn cyfuno lawr y chwith ond cafodd y croesiad gan Ben Davies ei glirio yn hawdd.

Daeth moment ysgytwol ar 52 munud pan gafodd llun o Gary Speed – fyddai wedi bod yn 52 oed heddiw – ei ddangos ar y sgrin fawr.

Cododd y dorf ar eu traed gan floeddio ‘Speedo’ ‘Speedo’ – mae’r cyn gapten a rheolwr yn dal yn fyw iawn yn nychymyg y Cymry.

Ac roedd yn teimlo fel petai hynny wedi ysgogi’r 11 Cymro oedd ar y cae wrth i Gymru godi’r tempo a mwynhau eu cyfnod gorau yn y gêm.

Mae’n debyg y gallai dynion Rob Page fod wedi sgorio o leiaf dwywaith mewn 10 munud, wrth iddyn nhw ddod yn agos gydag ergyd ar ôl ergyd.

Mae’n rhaid rhoi clod aruthrol i gôl-geidwad Estonia, Karl Hein, wnaeth sawl arbediad penigamp.

Daeth y cyfle gorau o’r cyfnod hwn pan enillodd Joe Allen y bêl yng nghanol y cae a’i phasio hi i Joe Morrell.

Pasiodd hwnnw’r bêl i lwybr Tyler Roberts, a dim ond y gôl-geidwad oedd rhyngddo ef a’r gôl.

Agorodd Tyler Roberts ei gorff gyda’r bwriad o basio’r bêl i ochr dde’r rhwyd, ond roedd Karl Hein wedi darllen y sefyllfa a llwyddodd i wneud arbediad da.

Gwibiodd Daniel James i lawr yr asgell funud yn ddiweddarach gan dynnu’r bêl yn ôl i Gareth Bale ar ochr y cwrt cosbi, ond roedd gormod bŵer ar ergyd y capten ac aeth hi dros y bar.

Daeth Mark Harris, chwaraewr ifanc Caerdydd ymlaen i’r cae ar ôl 62 o funudau gan gymryd lle Tyler Roberts, ac mae’n rhaid dweud ei fod wedi cael dylanwad ar y gêm gyda rhediadau cyson y tu ôl i amddiffyn Estonia – oedd prin wedi bod yn hanner Cymru ers i’r chwarae ail ddechrau.

Tawelu wnaeth y gêm nes y deg munud olaf, pan ddechreuodd Cymru wthio go iawn am gôl.

Roedd yno densiwn yn y dorf hefyd, gyda’r cefnogwyr yn annog Joe Morrell – yn ogystal â sawl un arall – i ergydio o bellter.

Ond dod wnaeth y cyfleoedd drachefn.

Cafodd Gareth Bale ergyd dda wedi’i harbed, cyn penio’r bêl yn erbyn y postyn gyda’i ail ymdrech.

Funud yn ddiweddarach bu cyfuno da rhwng Bale ag Allen, wrth i’r chwaraewr canol cael ergydio’n dda – ond roedd Karl Hein yno eto i rwystro Cymru.

Gyda phum munud yn weddill cafodd Cymru gic rydd ar ochr y cwrt cosbi – sefyllfa y mae Gareth Bale wedi hen arfer cymryd mantais ohono – ond er i’r bêl wyro’n beryglus, dros y bar aeth hi.

Daeth y gobaith olaf ym munudau olaf amser ychwanegol pan aeth Joe Morrell drwodd a disgyn i’r llawr yn y cwrt cosbi.

Apeliodd chwaraewyr Cymru yn wyllt ond heb lwc – roedd Joe Morrell ar ei ffordd lawr cyn i’r amddiffynnwr wneud cysylltiad mae’n rhaid cyfaddef – a chafodd Rob Page gerdyn melyn am brotestio ar ochr y cae.

Roedd yn ddiwedd siomedig i noson lle dylai Cymru wedi sgorio fwy nag unwaith a sicrhau’r triphwynt.

Ac yn wir, byddan nhw’n gofyn sut ddaru nhw ddim am beth amser.

Wyneb Gary Speed yn gwenu

Cofio Gary Speed ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 52 oed

Huw Bebb

“Weithiau, dydy chi ddim yn sylweddoli dylanwad rhywun ar y pryd” – Dylan Ebenezer yn siarad am Gary Speed