Mae carfan bêl-droed merched Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol nesaf wedi ei chyhoeddi, wrth iddyn nhw baratoi i chwarae yn erbyn Kazakhstan ac Estonia yng ngemau agoriadol ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023.
Does dim anafiadau amlwg yn wynebu’r rheolwr Gemma Grainger y tro hwn, wrth i Ceri Holland, chwaraewr canol cae Lerpwl, ddychwelyd ar ôl anaf.
Mae Hannah Cain, chwaraewr Leicester City, hefyd wedi cael ei henwi yn y garfan am y tro cyntaf.
Roedd yr ymosodwr 22 oed yn rhan o dimau dan 16 a dan 17 Cymru yn 2014, ac ers hynny mae hi wedi bod yn chwarae i dimau ieuenctid Lloegr.
Mae Cymru’n dechrau’r ymgyrch gyda gêm gartref yn erbyn Kazakhstan ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener, Medi 17.
Dyma fydd y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig i gefnogwyr gael gwylio tîm merched Cymru yn fyw.
Byddan nhw’n mynd ymlaen wedyn i herio Estonia oddi cartref yn Parnu ddydd Mawrth, Medi 21.
Y garfan
Mae Gemma Grainger wedi enwi 26 o chwaraewyr yn y garfan y tro hwn:
Laura O’Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Coventry), Poppy Soper (Plymouth Argyle); Hayley Ladd (Manchester United), Gemma Evans (Reading), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Esther Morgan (Tottenham Hotspur), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Ffion Morgan (Bristol City); Anna Filbey (Charlton Athletic), Angharad James (North Carolina Courage), Josie Green (Tottenham Hotspur), Charlie Estcourt (Coventry), Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Manchester United), Chloe Williams (Manchester United), Megan Wynne (Charlton Athletic), Georgia Walters (Lerpwl); Hannah Cain (Leicester City), Ceri Holland (Lerpwl), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Helen Ward (Watford), Elise Hughes (Charlton Athletic).
Mae tocynnau ar gyfer gêm Kazakhstan ym Mharc y Scarlets ar gael ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru nawr, gyda phrisiau mor isel â £2 i blant.