Nod partneriaeth newydd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Urdd yw cynyddu’r nifer o blant a phobol ifanc sy’n chwarae pêl-droed.

Bydd y bartneriaeth hefyd yn anelu at gynyddu’r niferoedd sy’n cefnogi’r tîm cenedlaethol ledled Cymru.

Wrth anelu at gynyddu’r niferoedd sy’n chwarae pêl-droed, bydd y bartneriaeth yn rhoi pwyslais ar gael mwy o ferched i gymryd rhan yn y gêm.

Bydd hybu’r diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg yn ganolog i waith y bartneriaeth hefyd.

Cynyddu niferoedd

Er mwyn cynyddu’r niferoedd, mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y canolfannau Huddle, gan osod targed o 100 canolfan erbyn 2024.

Mae Huddle wedi’i anelu at ddenu merched dwy i 12 oed i chwarae pêl-droed am y tro cyntaf.

Bydd gwersylloedd pêl-droed haf ar gyfer merched a bechgyn yn cael eu cynnal yn ystod Pencampwriaeth UEFA EURO Merched 2022 hefyd.

Fel rhan o ymgyrch #FelMerch yr Urdd, bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn cefnogi’r Urdd i ddarparu gweithgareddau pêl-droed hamddenol.

Prif nod yr ymgyrch #FelMerch yw ysbrydoli a chefnogi merched rhwng 14 a 25 oed i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac i wneud hynny mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Codi cefnogaeth

O ran ceisio codi cefnogaeth tîm cenedlaethol Cymri, bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn croesawu’r wasg i Wersylloedd a digwyddiadau’r Urdd ar gyfer cynadleddau’r wasg, gan gynnwys cyhoeddi’r garfan ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn ymgyrch rhagbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn Llangrannog.

Byddan nhw hefyd yn blaenoriaethu trefnu trafnidiaeth o ysgolion a chlybiau i gefnogi tîm merched Cymru yn eu gemau cartref.

Bydd cynnwys unigryw yn cael ei gyhoeddi ar sianeli cymdeithasol a chylchgronau’r Urdd hefyd, gan roi sylw i sêr timau merched a dynion Cymru.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd staff a phrentisiaid yr Urdd yn helpu i gynnal sesiynau pêl-droed mewn ysgolion difreintiedig yn ystod rhai o gemau oddi cartref Cymru yn 2022.

‘Lleihau rhwystrau’

Yn ôl Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, mae’r mudiad a’r Gymdeithas Bêl-droed yn rhannu’r un weledigaeth ac yn arbennig o awyddus i leihau’r rhwystrau i ferched gymryd rhan mewn chwaraeon.

“Mae perthynas yr Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynd o nerth i nerth ac mae hi’n wych cael cydweithio er mwyn cynnig profiadau unigryw i’n haelodau,” meddai Siân Lewis.

“Rydym yn rhannu’r un weledigaeth, sef sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc Cymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn wythnosol.

“Mae hyn yn arbennig o wir am ferched ac rydym yn awyddus i leihau’r rhwystrau i gymryd rhan, a dyma’r rheswm lansiwyd ymgyrch #FelMerch gennym yn ddiweddar.

“Edrychwn ymlaen at wahodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru i rai o sesiynau #FelMerch a’n helpu i ysbrydoli cenhedlaeth rhag rhoi’r gorau i chwaraeon, a chydweithio er mwyn cynnig profiadau unigryw i’n haelodau.”

‘Cynyddu cyfleoedd’

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hynod falch ein bod ni’n cryfhau ein perthynas gyda’r Urdd, ar ôl gweithio’n agos dros y blynyddoedd yn hybu diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg,” meddai Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Fe fydd y bartneriaeth yn cynyddu’r cyfleodd i blant yng Nghymru i chwarae pêl-droed ac yn creu cysylltiad rhwng aelodau o’r Urdd a’r timau cenedlaethol trwy drefnu tripiau i gemau Cymru a chynnwys unigryw gyda’n chwaraewyr ar gyfer sianelu cymdeithasol a chylchgronau’r Urdd.

“Trwy chwaraewyr fel Aaron Ramsey a Natasha Harding, mae gan yr Urdd hanes llwyddiannus o ran datblygu sêr y dyfodol ac rydym yn gobeithio gall y bartneriaeth helpu parhau hyn.”

Prosiect #FelMerch yr Urdd yn gyfle i “chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon”

Cadi Dafydd

Elinor Snowsill, maswr Cymru a Bryste, yn trafod pwysigrwydd prosiect #FelMerch a rhai o’r heriau oedd yn ei hwynebu fel merch ifanc ym myd chwaraeon