Mae Boris Johnson wedi ad-drefnu ei gabinet heddiw (Medi 15) gyda’r bwriad, meddai llefarydd, o “roi tîm unedig a chadarn mewn lle er mwyn adfer ar ôl y pandemig”.
Yn ôl Guto Harri, y sylwebydd gwleidyddol a chyn-ymgynghorydd Boris Johnson yn ystod ei gyfnod fel Maer Llundain, mae’n gyfle i’r llywodraeth symud yn ei blaen wedi wythnosau o geisio darogan pryd fyddai’r ad-drefnu.
“Nawr bod pawb er gwell neu er gwaeth yn gwybod pwy sydd yn y cabinet, mae hi nawr lot yn haws i’r llywodraeth ddod at ei gilydd gyda’r holl ddyfalu a’r darogan mas o’r ffordd,” meddai wrth Golwg360.
Ymysg y dyrchafiadau a’r diswyddiadau pennaf mae Liz Truss sy’n cymryd lle Dominic Raab fel Ysgrifennydd Tramor.
Tra bydd Mr Raab yn cyfuno tair rôl fel Ysgrifennydd Cyfiawnder, Arglwydd Ganghellor a Dirprwy Brif Weinidog – er nad yw hynny’n cuddio fod hyn yn gam i lawr o fod yn Ysgrifennydd Tramor.
‘Diwrnod da i Dominic Raab’
Bu cryn drafod am dynged Dominic Raab wedi galwadau arno fis yn ôl i ymddiswyddo oherwydd ei fod ar ei wyliau pan oedd y sefyllfa yn Affganistan yn gwaethygu.
“Mae e wedi glanio ar ei draed,” meddai Guto Harri.
Roedd hi’n edrych yn ddu iawn arno fe y bore ’ma, ond mae e wedi diweddu lan mewn swydd mae e’n gymwys iawn ar ei chyfer ynghyd â theitl mawreddog hyd yn oed,” meddai Guto Harri.
“Mae’n amlwg wedi gofyn am wobr gysur o golli’r statws o fod yn Ysgrifennydd Tramor ac mae e wedi bennu lan yn Ddirprwy Brif Weinidog sy’n dangos ei ddawn gyfreithiol o allu negodi gyda’r Prif Weinidog.
“Mae’r swydd y mae e wedi cael ei symud iddi yn briodol iawn gan ystyried ei gefndir cyfreithiol – ef nawr yw prif gyfreithiwr y llywodraeth.”
Liz Truss yn Ysgrifennydd Tramor
Liz Truss – sydd wedi bod yn Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol ers dwy flynedd – sy’n cymryd lle Dominic Raab, ac mae Guto Harri yn credu ei bod hi’n barod ar gyfer y Swyddfa Dramor.
“O ran hyfforddiant mae hi wedi bod yn teithio dramor, yn fwy na’r Ysgrifennydd ei hun, gan arwyddo cytundebau ledled y byd,” meddai Guto Harri.
“Mae hi wedi cael rhyw fath o brentisiaeth wrth fod yn Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol.
“Ond mae’r statws sydd ganddi yn ei swydd nawr fel Ysgrifennydd Tramor llawer yn uwch.
“Dydy e ddim fel petai hi wedi ei phenodi o’r Swyddfa Gartref i’r Swyddfa Dramor ac yn cael ei danfon o amgylch y byd.
“Mae hi wrth gwrs wedi bod yn ffocysu ar weddill y byd ers dwy flynedd.”
Ysgrifennydd Cartref
Mae Priti Patel wedi llwyddo dal ei gafael ar ei swydd fel Ysgrifennydd Cartref.
Mae Ms Patel wedi cael ei beirniadu’n ddiweddar dros y modd mae’n delio â mewnfudo.
“Mae’n dangos bod y Prif Weinidog yn meddwl ei bod hi’n wydn, boblogaidd, a bod ei greddfau hi’n debyg i reddfau pobl ar lawr gwlad,” meddai Guto Harri.
Cabinet cynhwysol?
Mae Guto Harri yn dweud bod gan Boris Johnson gabinet cynhwysol iawn.
“Mae ganddo drawstoriad eang o bobl o liw a menywod – sy’n fwy o drawsdorriad o gymdeithas nag unrhyw gabinet yn y gorffennol.
“Cafwyd dyn o gefndir Mwslemaidd yn Ganghellor am y tro cyntaf [Sajid Javid], a dyn o gefndir Hindŵ hefyd [Rishi Sunak].”
Dim Cymry yn y Cabinet
Wedi i’r Prif Weinidog ddiswyddo Rober Buckland o’i swydd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, ymddengys na fydd yr un Cymro yng nghabinet Boris Johnson.
“O safbwynt Cymreictod, y trueni yw bod yr unig Gymro yn y cabinet wedi ei gicio mas”.
“Roedd record Blair a brown yn druenus o ran y Cymry yn eu cabinet.
“Ond wrth edrych nôl ar lywodraethau Ceidwadol yn yr hen ddyddiau, er nad y Cymry yno yn cynrychioli etholaethau yng Nghymru, roedd pobl fel Michael Howard, Georffrey Howe, Michael Heseltine – rhai o fawrion Llywodraeth y Deyrns Unedig – yn hanu o Gymru.
“Ydy hynny’n arwydd o wendid y cnwd o wleidyddion sy’n cael eu hethol i San Steffan neu’n arwydd o gryfder datganoli gyda’r dalent yn mynd i Far Caerdydd?”
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Dros yr wythnos ddiwethaf roedd sïon y byddai Simon Hart yn cael ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru – ond bellach daeth cadarnhad y bydd yn aros yn y swydd.
Yn ôl Guto Harri bu sïon am Craig Williams, Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn yn cael ei benodi – ond roedd yn ystyried hynny’n anhebygol.
“Mae yna dri gŵr sydd wedi gwneud y swydd sydd dal yn uchel eu parch yn San Steffan sef Crabb, Cairns a David Jones – yn y drefn honno fel petai,” meddai.
“Ond dw i wedi synhwyro does dim awydd i ddod ag un o’r tri yna yn ôl i’r cabinet, ac mae’r dewis wedyn yn mynd yn denau iawn.
“Dydy e ddim yn swydd mor weinyddol bwysig gan fod y rhan fwyaf o’r gweinyddu wedi mynd i Gaerdydd.
“Ond mae yna gyfle a llwyfan i’r swydd ac mae yna dipyn gall rhywun sydd ag argyhoeddiad ac egni ei wneud – ond dydyn ni heb weld hynny’n ddiweddar.
“Pan holais i Simon Hart ar y diwrnod gafodd e’r swydd, roedd e am fod yn gymedrol a doedd e ddim am chwarae rôl rhy fawr.
“Mae rhai o fewn y Blaid Geidwadol o bosib yn rhwystredig nad yw e’n fwy ymosodol dros record Llafur o fewn y Senedd yng Nghaerdydd.”