Bydd rhaglen newydd yn dod â chwmnïau o bum sector ynghyd i helpu ei gilydd i allforio mwy o’u cynnyrch dros y byd.
Mae’r Rhaglen Clwstwr Allforio yn un o gyfres o fentrau newydd sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Allforio Cymru.
Bwriad y cynllun yw creu sector allforio gref, fywiog a chynaliadwy i helpu i gryfhau’r economi, diogelu swyddi a chynnig cyfleoedd newydd i bobol yng Nghymru.
Yn 2019, allforiodd cwmnïau yng Nghymru werth £17.8 biliwn o nwyddau i farchnadoedd dros y byd, a’r Undeb Ewropeaidd oedd partner masnachu mwyaf arwyddocaol Cymru.
Roedd 106,015 o fusnesau’n gweithredu yng Nghymru yn 2019, ond dangosa ystadegau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi mai dim ond tua 5,243 ohonyn nhw oedd yn allforio nwyddau’r flwyddyn honno.
Mae’r rhaglen newydd hon yn gweithio gyda chwmnïau o’r sectorau technoleg, gweithgynhyrchu gwerth uchel, cynhyrchion defnyddwyr, ynni glân a gwyddorau bywyd er mwyn datblygu eu gallu i allforio.
Bydd yn helpu i ddatblygu rhwydwaith gymorth gref, gan helpu i sicrhau bod cwmnïau’n dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau.
“Gwella perfformiad”
Cafodd y rhaglen ei lansio gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn ystod ymweld â CatSci yng Nghaerdydd, cwmni sy’n datblygu prosesau gweithgynhyrchu fferyllol sy’n amgylcheddol gynaliadwy.
Mae’r cwmni wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i allforio, gan eu helpu i ymweld â marchnadoedd allweddol, mynychu sioeau masnachol, a chwrdd â phartneriaid busnes posib.
Mae Llywodraeth Cymru “wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau ledled Cymru i’w helpu i greu swyddi newydd yn niwydiannau’r dyfodol”, meddai Vaughan Gething.
“Mae allforio nwyddau a gwasanaethau eisoes yn cyfrannu cryn dipyn i’n heconomi. Mae’n hanfodol ein bod yn gallu cynnal a datblygu’r cyfraniad hwn er mwyn ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu yn awr ac yn y dyfodol,” meddai Gweinidog yr Economi.
“Dyna pam rydym yn benderfynol o wella perfformiad allforio Cymru hyd yn oed ymhellach, er gwaethaf yr heriau yn yr amgylchedd masnachu byd-eang yn ddiweddar.
“Mae’r Rhaglen Clwstwr Allforio newydd rwy’n ei lansio heddiw yn rhan hanfodol o’n Cynllun Gweithredu Allforio, sydd, yn fy marn i, y rhaglen fwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr o gymorth allforio a sefydlwyd erioed yng Nghymru.
“Bydd yn cefnogi ac yn estyn allan at fwy o gwmnïau i ddatblygu eu gallu i allforio, gan eu helpu i ddatblygu cyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd. Bydd hyn yn helpu i greu twf economaidd, gan helpu i greu swyddi newydd a gwell yn ein cymunedau.
“Mae hyn i gyd yn rhan o’n cenhadaeth i greu economi werdd ffyniannus, deg a gwyrdd yng Nghymru.”
“Parhau i arloesi”
Dywedodd Dr Jenny Wallis, Rheolwr Datblygu Busnes CatSci, bod allforio wedi bod yn “ganolog” i dwf eu busnes.
“Gyda’r cyfleusterau newydd rydym am barhau i arloesi, adeiladu ar ein llwyddiant diweddar a datblygu ein masnach ryngwladol ymhellach,” meddai Dr Jenny Wallis.
“Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi ein helpu gyda’n gweithgareddau allforio, gan gynnwys archwilio’r farchnad ac arddangosfeydd masnach yn ogystal â chyngor cyffredinol gan bobol wybodus a phrofiadol.
“Unrhyw fusnes o Gymru sy’n dymuno allforio neu allforio mwy, byddwn yn eu hannog i siarad â thîm allforio Llywodraeth Cymru.”