Mae ymgyrch newydd gan Undeb Amaethwyr Cymru am godi ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin domestig mewn cymunedau gwledig.
Ar y cyd â’r DPJ Foundation a heddluoedd ledled Cymru, bydd yr ymgyrch yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn cam-drin domestig ers i gyfyngiadau Covid-19 ddod i rym.
Gyda cham-drin domestig yn gallu arwain at ddatblygu gorbryder, iselder a chyflyrau iechyd meddwl eraill, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymrwymo i gadw’r sylw ar faterion meddwl cyhyd â’i fod yn parhau’n broblem.
Yn ôl yr Arolwg Troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr, rhwng Mawrth 2020 a 2021 bu twf o 7% yn y troseddau cam-drin domestig a gafodd eu cofnodi gan heddluoedd.
Er hynny, mae gwasanaethau cymorth wedi gweld cynnydd mwy, gyda Chymorth i Ddioddefwyr wedi gweld cynnydd o 12% yn nifer achosion cam-drin domestig a gafodd eu cyfeirio atyn nhw.
Fel rhan o’r ymgyrch, bydd Undeb Amaethwyr Cymru’n darparu Hyfforddiant Cam-drin Domestig i bob aelod o staff er mwyn eu galluogi i ddeall cam-drin domestig yn well a sut i gyfeirio pobol at gymorth arbenigol.
“Amgylcheddau iach”
Wrth lansio’r ymgyrch yn Sioe Brynbuga, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: “Codwyd llawer o ymwybyddiaeth dros y 5 mlynedd diwethaf a bu cynnydd cyson wrth godi ymwybyddiaeth a hyder yn ein cymuned ffermio i dderbyn bod hi’n iawn i beidio bod yn iawn, ac nad yw gofyn am help yn arwydd o wendid, ond yn hytrach yn angenrheidiol er mwyn i’n ffermwyr a’u teuluoedd aros yn gryf.
“Fodd bynnag, er mwyn i’n meddyliau fod yn iach, mae angen i ni hefyd fod mewn amgylcheddau iach ac amgylchynu ein hunain gyda phobl a all ein helpu, nid ein cam-drin.
“O ystyried yr ystadegau trist hyn ar gam-drin domestig, rydym yn ymuno â’n helusen, y DPJ Foundation a heddluoedd ledled Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r hyn yw cam-drin domestig a sut y gallwch gael yr help sydd ei angen arnoch.”
Cymorth cyfrinachol
Mae’r DPJ Foundation yn darparu llinell gymorth gyfrinachol i bobol sydd eisiau siarad, sydd angen help, neu a allai fod yn cael trafferth â’u hiechyd meddwl.
“Gall galwadau fod ar unrhyw fater, ac yn ystod ac yn dilyn cyfnodau clo coronafirws, gwelsom gynnydd mewn galwadau ac ymholiadau yn ymwneud â cham-drin domestig,” meddai Kate Mills, Rheolwr Elusen y DPJ Foundation.
“O ganlyniad rydym wedi darparu hyfforddiant i’n gwirfoddolwyr mewn Ymwybyddiaeth Cam-drin Ddomestig sy’n golygu y gallant gefnogi’r bobl hynny sy’n ffonio, sydd o bosib mewn perthynas ac yn cael eu cam-drin, p’un a ydynt yn sylweddoli hynny neu beidio.
“Rydyn ni’n derbyn galwadau gan ddynion sy’n cael eu rheoli neu’n cael eu cam-drin gan eu partneriaid ac rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod yr hyn a all fod yn ymddygiad ymosodol,” ychwanegodd Kate Mills.
“Rydym hefyd wedi cefnogi pobl sy’n dioddef o gamdriniaeth gan y teulu, rhwng cenedlaethau.”
Dywedodd Kate Mills bod y DPJ Foundation eisiau annog unrhyw un sy’n poeni am eu hymddygiad, neu am ymddygiad rhywun arall, i ofyn am help.
“Gellir gwneud hyn yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn eich barnu chi na neb arall,” meddai.
“Gall ein gwirfoddolwyr a’n cwnselwyr eich cefnogi chi i gael help, p’un ai chi yw’r dioddefwr neu’r cyflawnwr.”
“Dim ffin”
Does gan gam-drin domestig ddim ffin, boed yn gorfforol neu’n feddyliol, meddai Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor.
“Gall dynion a menywod o bob oedran a chefndir fod yn ddioddefwyr ac yn sicr nid yw wedi’i gyfyngu i ardaloedd trefol,” meddai Rob Taylor.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn gallu estyn allan i’n cymunedau gwledig i gynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n ynysig ac yn dioddef yn ddiangen.
“Ni ddylai unrhyw un deimlo’n unig ac mae’n hanfodol ein bod yn cyfleu’r neges bod yna bobol o lawer o ardaloedd a sefydliadau o fewn Cymru a all helpu.
“Yn fy rôl newydd fel Cydlynydd Heddlu Gwledig Cymru, byddaf yn sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl ar gael i’r rhai hynny yn ein cymunedau gwledig, i helpu’r rhai sydd ein hangen, trwy dynnu ynghyd y bobol anhygoel sydd gennym yma yng Nghymru.”