Dydy refferendwm annibyniaeth ddim yn un o flaenoriaethau pobol Cymru, yn ôl arolwg sydd newydd ei gyhoeddi.
Daw hyn ar ôl i’r arolwg newydd ddangos bod blaenoriaethau pobol Cymru, yr Alban a Lloegr yn ddigon tebyg ar y cyfan.
Dim ond 9% o’r rhai wnaeth ymateb oedd yn nodi refferendwm annibyniaeth fel prif flaenoriaeth, tra bod 20% o’r rhai wnaeth ymateb yn yr Alban yn teimlo’r un fath.
Fe gafodd 500 o bobol eu holi yng Nghymru, 2,000 o bobol yn Lloegr a 1,000 yn yr Alban ar gyfer arolwg Stack Strategy – sy’n rhan o felin drafod y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown, Our Scottish Future.
Roedd llawer o’r cyfranwyr wedi nodi mai eu prif flaenoriaeth oedd gwella’r Gwasanaeth Iechyd – gan gynnwys 47% o bobol yng Nghymru.
Hefyd, roedd sicrhau pensiwn teg i bobol hŷn, mynd i’r afael â newid hinsawdd a brwydro anghydraddoldeb yn uchel ar restr flaenoriaethau pobol.
‘Hunaniaethau lluosog’
Mae Gordon Brown, oedd yn Brif Weinidog yn San Steffan rhwng 2007 a 2010, yn honni bod gwledydd y Deyrnas Unedig yn “agosáu at ei gilydd, nid ymbellhau,” a bod canfyddiadau’r arolwg yn ei gwneud hi’n anodd dadlau o blaid annibyniaeth yng Nghymru a’r Alban.
“Yn wir, mae’n gwrth-ddweud eu dadl ganolog dros chwalu Prydain: na allwn ni fod yn Albanaidd a Phrydeinig neu Gymraeg a Phrydeinig ar yr un pryd,” meddai yn y New Statesman.
“Mae’r mwyafrif ohonon ni’n gallu teimlo’n gyfforddus gyda hunaniaethau lluosog ac yn ei chael hi’n hawdd chwifio baneri Sant Andrew, San Siôr a Dewi Sant ym mis Mehefin i gefnogi timau’r Alban, Lloegr a Chymru ac yna, ym mis Awst, yn gallu newid yn naturiol i gefnogi timau Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Prydain.”
“Undebaeth gyhyrog” ddim yn gweithio
Er hynny, mae Gordon Brown yn gweld “undebaeth gyhyrog” y Prif Weinidog Boris Johnson yn gwneud mwy o les i annibyniaeth na niwed.
“O ddisgrifio’r Deyrnas Unedig fel ‘un genedl’, mae’n anwybyddu’r syniad a’r realiti ehangach ein bod ni’n ‘deulu o genhedloedd’,” meddai wedyn.
“Mae e eisiau labelu ffyrdd a phontydd newydd yn yr Alban yn rhai Prydeinig, fel pe bai codi mwy o faneri Jac yr Undeb yn gwneud i bobol benderfynu mai dim ond Prydeinwyr ydyn nhw, yn hytrach nag Albanwyr neu Gymry.
“Er bod [Johnson] ei hun un tro yn mynnu mwy o bwerau i Lundain, mae e bellach yn gweld datganoli y tu allan i Lundain fel ‘trychineb’.”