Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd ar goll o ardal Machynlleth.

Cafodd Anthony Oldham ei weld ddiwethaf brynhawn ddoe (dydd Llun, Medi 12), pan adawodd ei gartref ym Mhenegoes i fynd am dro.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn chwe troedfedd o daldra, ac o faint canolig.

Roedd yn gwisgo trowsus du a chrys-t tywyll pan gafodd ei weld ddiwethaf.

Dylai unrhyw un welodd Anthony ddoe, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys.