Mae cwmnïau awyrennau’n gweld cynnydd yn y galw am deithiau i’r Unol Daleithiau ar ôl i’r Tŷ Gwyn gadarnhau y bydd yn codi’r gwaharddiad ar deithwyr o’r Deyrnas Unedig sydd wedi’u brechu’n llawn.
Dywed British Airways fod nifer y cwsmeriaid fu’n chwilio am wyliau yn yr Unol Daleithiau yn yr oriau ar ôl y cyhoeddiad ddydd Llun (20 Medi) fwy na saith gwaith yn uwch o’i gymharu â’r un cyfnod yr wythnos ddiwethaf.
Ymhlith y lleoliadau mwyaf poblogaidd mae Efrog Newydd, Orlando, Las Vegas, Miami, Los Angeles a Boston.
Ar hyn o bryd mae teithwyr tramor wedi’u gwahardd rhag mynd i’r Unol Daleithiau os ydynt wedi bod yn y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Tsieina, India, Iran, Brasil neu Dde Affrica yn y 14 diwrnod blaenorol.
Cyhoeddodd cydlynydd Covid-19 y Tŷ Gwyn, Jeff Zients, ddydd Llun (20 Medi) y byddai ymwelwyr tramor yn cael ymweld â’r wlad o fis Tachwedd os ydynt yn dangos eu bod wedi cael eu brechu a phrawf negyddol a gymerwyd yn ystod y tridiau diwethaf.
‘AstraZeneca ddim yn broblem’
Mae prif gynghorydd meddygol yr Unol Daleithiau, Dr Anthony Fauci, wedi awgrymu y bydd teithwyr o Brydain sydd wedi cael eu brechu gyda’r pigiad AstraZeneca (AZ) yn cael mynd i’r Unol Daleithiau.
“Nid wyf yn credu bod unrhyw reswm dros gredu y dylai pobol sydd wedi derbyn y brechlyn AZ deimlo y bydd unrhyw broblem,” meddai Dr Fauci wrth raglen Today BBC Radio 4.
“O ystyried bod gennym swm sylweddol o wybodaeth am y brechlyn AZ – eto heb fod yn bendant ynghylch hyn – byddwn yn rhagweld na fyddai problem.”