Fe fu 65 o farwolaethau yn ymwneud a Covid-19 yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 10 Medi, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Mae hyn yn cymharu efo 25 o farwolaethau yn yr wythnos flaenorol.

Yn Lloegr roedd nifer y marwolaethau yn ymwneud a Covid-19 wedi cynyddu i 786 yn yr wythnos hyd at 10 Medi, o’i gymharu â 632 yn yr wythnos flaenorol.

O’r marwolaethau gafodd eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 10 Medi yng Nghymru a Lloegr roedd 857 wedi nodi Covid-19, sef 7.8% o’r holl farwolaethau. Roedd hyn yn gynnydd o’r 659 gafodd eu cofnodi yn yr wythnos flaenorol.

Mae Covid-19 bellach wedi cael ei gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth mwy na 160,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig. Cafodd y ffigwr yma ei nodi ar 7 Medi.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 160, 374 o farwolaethau yn ymwneud a’r coronafeirws wedi bod yn y DU ers dechrau’r pandemig.