Mae trydydd ysbïwr o Rwsia yn wynebu cyhuddiadau o geisio llofruddio yn yr achos o wenwyno gyda’r gwenwyn Novichok yng Nghaersallog (Salisbury).
Mae Denis Sergeev, a ddefnyddiodd yr enw Sergey Fedotov tra ei fod e yn y Deyrnas Unedig, yn wynebu cyfres o gyhuddiadau gan gynnwys ceisio lladd cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal, ei ferch Yulia a chyn-swyddog yr heddlu Nick Bailey.
Bu Sergei a Yulia Skripal yn ymladd am eu bywydau ym mis Mawrth 2018 ar ôl cael eu gwenwyno.
Roedd Nick Bailey yn un o’r swyddogion oedd yn ymchwilio i’r achos a buodd e’n ddifrifol wael hefyd.
Mae Denis Sergeev yn wynebu saith cyhuddiad, gan gynnwys tri o geisio llofruddio yn ogystal â chynllwyn i lofruddio Sergei Skripal, achosi niwed corfforol difrifol i Yulia Skripal a Nick Bailey, a meddiannu a defnyddio arfau cemegol.
Dyma’r un cyhuddiadau y mae Alexander Mishkin, a ddefnyddiodd yr enw Alexander Petrov tra yn y Deyrnas Unedig, ac Anatoliy Chepiga, a ddefnyddiodd yr enw Ruslan Boshirov, yn eu hwynebu.
‘Y tri yn beryglus’
Yn ôl y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Dean Haydon, yr uwch gydlynydd cenedlaethol ar gyfer plismona gwrthderfysgaeth y Deyrnas Unedig, “mae’r tîm ymchwilio wedi bod yn rhoi tystiolaeth at ei gilydd sy’n awgrymu bod Petrov, Boshirov a Fedotov i gyd wedi gweithio gyda’i gilydd ac ar ran gwladwriaeth Rwsia fel rhan o weithrediadau a gafodd eu cynnal y tu allan i Rwsia”.
“Mae’r tri ohonyn nhw’n unigolion peryglus,” meddai.
“Maen nhw wedi ceisio llofruddio pobol yma yn y Deyrnas Unedig, ac maen nhw hefyd wedi dod ag arfau cemegol hynod beryglus i’r Deyrnas Unedig, er nad ydym yn siŵr sut.”
Y manylion
Cyrhaeddodd Denis Sergeev y Deyrnas Unedig am 11yb ar Fawrth 2, 2018, gan hedfan o Fosgo i Heathrow a chyrraedd tua phedair awr cyn i Alexander Mishkin a Anatoliy Chepiga lanio yn Gatwick.
Fe wnaeth y tri gyfarfod nifer o weithiau yn y dyddiau nesaf, mewn lleoliadau agored ac mewn lleoliadau dan do, ond wnaeth Denis Sergeev ddim gadael Llundain.
Chafodd olion o’r gwenwyn Novichok mo’u canfod yn ystafell wely’r gwesty yr arhosodd ynddi am ddwy noson cyn hedfan yn ôl i Fosgo o Heathrow amser cinio ar Fawrth 4.
Cafodd y gwenwyn ei storio mewn potel bersawr ffug gafodd ei chanfod ym mis Mehefin y flwyddyn honno mewn bin siop elusen yn Amesbury gan Charlie Rowley.
Roedd yn ddifrifol wael yn dilyn hynny, a bu farw ei gariad Dawn Sturgess ar ôl dod i gysylltiad â’r sylwedd marwol.
Dim cais estraddodi
“Ni fyddwn yn gwneud cais estraddodi i Rwsia gan nad yw cyfansoddiad Rwsia yn caniatáu estraddodi dinasyddion ei hun,” meddai Nick Price, pennaeth yr Is-adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth.
“Mae Rwsia wedi gwneud hyn yn glir yn dilyn ceisiadau estraddodi mewn achosion eraill.
“Pe bai’r sefyllfa hon yn newid, yna byddai cais estraddodi yn cael ei wneud.”
Bydd yr heddlu’n gwneud cais i gyhoeddi hysbysiad Interpol ar gyfer Denis Sergeev.
Does dim cyhuddiadau wedi eu dwyn dros farwolaeth Dawn Sturgess eto, ond dywedodd Dean Haydon fod yr achos yn parhau i fod yn ymchwiliad byw.
Mae disgwyl i wrandawiad adolygu gael ei gynnal cyn cwest i’w marwolaeth yfory (dydd Mercher, Medi 22).