Fe fydd cig oen Mynyddoedd Cambria yn derbyn statws gwarchodedig yn y Deyrnas Unedig.
Y cig yw’r ail gynnyrch Cymreig i ennill statws Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig, wedi i Gig Oen Morfa Heli Gŵyr ennill yr un gydnabyddiaeth fis diwethaf.
Bwriad y rhaglen yw sicrhau bod cynnyrch poblogaidd a thraddodiadol yn cael eu cydnabod am eu tarddiad ac nad oes modd iddyn nhw gael eu dynwared.
Mae’r dynodiad yn derbyn cynnyrch i raglen statws gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd, sy’n gwarchod tarddiad daearyddol bwydydd fel Halloumi, ham Parma a Champagne.
Mae cig oen Mynyddoedd Cambria wedi derbyn cydnabyddiaeth am y ffordd mae’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio’r dull Hafod a Hendre i ffermio, dull sy’n dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol.
Drwy’r dull hwnnw, mae’r anifeiliaid yn tyfu’n naturiol araf, wrth bori ar fynyddoedd a bryniau yn ystod yr haf a’r hydref.
Mae’r oen yn aeddfedu’n araf dros fwy nag 16 wythnos, cyn cael ei werthu i gwsmeriaid.
Mae 91 o gynhyrchion wedi derbyn Dynodiad Daearyddol dros y Deyrnas Unedig – 81 cynnyrch amaethyddol, pum gwin, a phum gwirodydd.
‘Eiconig’
Dywed Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, bod rhoi’r dynodiad i gig oen Mynyddoedd Cambria yn “newyddion gwych”, gan longyfarch y grŵp bach o gynhyrchwyr.
“Mae eu cynnyrch gwych yn enghraifft arall o’r bwyd a diod eiconig sydd gan Gymru i’w gynnig,” meddai.
“Mae nifer o gynhyrchion bwyd a diod cyffrous eraill yng Nghymru yn gwneud cais am statws Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac rwy’n edrych ymlaen at weld teulu Dynodiad Daearyddol Cymru yn parhau i dyfu.”
‘Cynnyrch unigryw’
Dywed Huw Davies o Fferm Aberdauddwr ac aelod o grŵp y cynhyrchwyr eu bod nhw’n falch iawn o ennill y statws hwn.
“Rydym yn falch iawn o ennill y statws Dynodiad Daearyddol hwn yn y Deyrnas Unedig; i gydnabod y cynnyrch unigryw rydym yn gynhyrchu yn y bryniau hyn sef ‘Cig Oen Mynyddoedd Cambria’,” meddai.
“Gyda statws GI (Dynodiad Daearyddol) y Deyrnas Unedig, rwy’n gobeithio y bydd y defnyddiwr yn gallu mwynhau Cig Oen Mynyddoedd Cambria am flynyddoedd i ddod.”
“Hedfan y fflag dros fwyd Prydain”
“Yn dilyn gwobrwyo’r statws gwarchodedig i Gig Oen Morfa Heli Gŵyr dros yr haf, mae’r cyhoeddiad diwethaf hwn yn amlinellu ansawdd oen Cymreig eto, ac yn dyst i sgil y rhai sy’n ei gynhyrchu,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru.
“Mae ystod ac ansawdd bwyd a diod Cymru’n adnabyddus dros y byd ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i warchod a hyrwyddo ein cynnyrch eiconig gyda rhaglenni Dynodiadau Daearyddol.”
Ychwanegodd Boris Johnson ei fod eisiau “i bobol, gartref a thramor, fod yn ciwio i brynu cynnyrch Prydeinig”.
“Trwy ein rhaglenni Dynodiadau Daearyddol, rydyn ni’n hedfan y fflag dros fwyd Prydain Fawr ac yn dathlu’r hyn sy’n ei wneud yn arbennig,” meddai.