Mae aelod seneddol Ceidwadol Ynys Môn wedi’i phenodi’n Ysgrifennydd Preifat Seneddol yn swyddfa Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, ac yn addo parhau i ddysgu’r iaith Gymraeg.

Daw’r penodiad ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ad-drefnu Cabinet Llywodraeth Prydain yr wythnos ddiwethaf, gan gadw Hart yn y swydd.

Yn y gorffennol, bu’n Ysgrifennydd Preifat Seneddol yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae datganiad gan y blaid yn egluro y bydd Crosbie yn “llygaid a chlustiau” ychwanegol i Ysgrifennydd Cymru â’i dîm gweinidogol yn Nhŷ’r Cyffredin, gan sicrhau bod materion, pryderon a chwestiynau aelodau seneddol yn ei gyrraedd.

Dywed Virginia Crosbie ei bod hi “wrth ei bodd” o gael ei phenodi i swydd “wrth galon Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gwneud penderfyniadau am Gymru”.

“Bydd yn fraint cael cefnogi gweinidogion ac, yn bwysig, sicrhau bod Ynys Môn ym mlaen ac wrth galon polisi’r Llywodraeth,” meddai.

“Gallaf sicrhau pawb y bydda i’n parhau i lobïo am ragor o swyddi, cyflogaeth â sgiliau a buddsoddiad i bobol yr ynys.

“Mae hefyd yn fy ysgogi ymhellach i barhau i ddysgu’r iaith Gymraeg!”

Dysgu Cymraeg ac edrych ymlaen at ddefnyddio’r iaith

“Dw i’n gwisgo fy mathodyn dysgu Cymraeg gyda balchder ar hyd coridorau San Steffan”