Bydd dyfodol Ysgol Gynradd Abersoch yn cael ei benderfynu ddydd Mawrth nesaf (Medi 28), yn ôl Cyngor Gwynedd.

Mae adroddiad sy’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn awgrymu y dylid cau’r ysgol erbyn diwedd Rhagfyr eleni, ond mae sawl un wedi gwrthwynebu’r cynlluniau gan honni y byddai’n gadael y pentref yn wag am y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Mae’r ysgol wedi bod ar agor ers 1924, a phe bai’n cau ei drysau, byddai’r deg disgybl yn cael lle yn Ysgol Sarn Bach, sydd wedi ei lleoli dros filltir i ffwrdd, o fis Ionawr.

Pwyso a mesur

Y prif reswm dros gau’r ysgol yw’r gost o’i chynnal – sydd tua £17,404 y pen, a dros bedair gwaith y cyfartaledd i bob disgybl yn y sir (£4,198).

Mae gan yr ysgol gynradd le i 32 o blant, ond mae’n gweithredu ar chwarter ei chapasiti ar hyn o bryd, er bod gan y pentref 783 o bobol yn byw yno’n llawn amser.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos mai dim ond pump allan o’r 26 o blant sy’n cael eu haddysg yn yr ardal sy’n mynychu ysgol Abersoch.

Ar y llaw arall, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r cynlluniau’n “unllygeidiog,” gan honni bod Abersoch eisoes yn dioddef o broblem tai haf.

Roedd y Cyngor wedi derbyn ymateb chwyrn mewn ymgynghoriad yn ddiweddar, a denodd dwy ddeiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau bron i 3,000 o lofnodion.

‘Mae’r ysgol yn galon i’r pentref’

Roedd Dewi Wyn Roberts, y Cynghorydd dros Abersoch, wedi galw’r penderfyniad yn “fradychiad o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg” wrth siarad â golwg360 ym mis Gorffennaf.

“Mae’n frwydr ddyddiol i gadw’r iaith yn fyw oddi fewn i Abersoch,” meddai bryd hynny.

“Mae tynnu hwn oddi yna’n mynd i gael effaith ddifrifol, mae pobol yn gweld y plant, maen nhw’n mynd i ddigwyddiadau oddi fewn i’r pentref, mynd i ddigwyddiadau ar y traeth, mae pobol Saesneg sy’n dod yma ac ymwelwyr Saesneg yn gweld bod yr iaith yn fyw ac yn cael ei defnyddio, bod yna addysg ac mae o’n gwerthu’n diwylliant ni i ymwelwyr.

“Yn hanesyddol, mae’r ysgol yn galon i’r pentref. Dw i’n dallt mai ysgol fach ydi hi, a dw i’n dallt fod yna gostau ynghlwm [â hi].”

Ddim yn benderfyniad “hawdd”

Mae’r Cynghorydd Cemlyn Williams, yr Aelod Cabinet tros Addysg ar Gyngor Gwynedd, wedi ymateb cyn iddyn nhw wneud y penderfyniad terfynol yng nghyfarfod y cabinet ddydd Mawrth, Medi 28.

“Nid peth hawdd ydi penderfynu ar ddyfodol unrhyw ysgol ac rydym yn deall fod hyn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb sydd ynghlwm â’r ysgol,” meddai.

“Mi fyddwn i’n hoffi diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau ar ddyfodol Ysgol Abersoch gan gynnwys disgyblion, staff a llywodraethwyr ynghyd â’r unigolion sydd wedi cyfrannu at y cyfnodau ymgynghori a gwrthwynebu statudol.

“Mae hi yn destun tristwch pan mae rhaid ystyried dyfodol unrhyw ysgol, serch hynny, mae dyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn cynnig yr addysg a phrofiadau ynghyd a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant.

“Ar ôl ystyried yr holl wrthwynebiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r cyfnod gwrthwynebu statudol yn fanwl, argymhellir cadarnhau y cynnig i gau Ysgol Abersoch ar ddiwedd 2021.

“Mae awydd clir wedi bod ym mhentref Abersoch i weld parhad yr ysgol, a bydd pob ymdrech i sicrhau fod cyswllt clir yn parhau rhwng cymuned Abersoch ac Ysgol Sarn Bach lle mae nifer o ddisgyblion Abersoch eisoes yn mynychu o Flwyddyn 4 ymlaen.”