Mae penderfyniad banc HSBC i gyflwyno costau newydd i gyfrifon banc sefydliad di-elw ac elusennau am “lorio” rhai cymdeithasau gwirfoddol, yn ôl cadeirydd un papur bro.

Yn ôl rhai papurau bro yng Nghymru, mae cyhoeddiad y banc y byddan nhw’n codi costau ar gymdeithasau, grwpiau cymunedol ac elusennau yn “newyddion drwg” ac yn “siomedig”.

O fis Tachwedd, bydd y banc yn cael gwared ar gyfrifon cymunedol ac yn cyflwyno cyfrif banc elusennol newydd, a bydd rhaid i elusennau dalu cost o £60 y flwyddyn i gadw’r cyfrif ar agor.

Ers dros ddegawd, mae HSBC wedi caniatáu i elusennau a sefydliadau di-elw reoli eu cyfrifon am ddim cyn belled â’u bod nhw’n ennill llai na £100,000 y flwyddyn.

Ynghyd â thâl o 0.4% am dynnu a rhoi arian yn y cyfrif, bydd tâl o £4 ar rodd o £1,000, a thâl o 40c ar bob siec sy’n cael ei defnyddio.

‘Sefyllfa anodd iawn, iawn’

Mae papur bro Caernarfon yn un o’r rhai sy’n bancio gyda HSBC ac yn ôl eu cadeirydd, bydd rhaid i’r pwyllgor drafod eu hopsiynau.

“Rydyn ni ar ddeall bod yna newidiadau o’r math yma yn yr arfaeth, ond dydyn ni heb ddod i unrhyw benderfyniad eto,” meddai Glyn Tomos, cadeirydd Papur Dre, wrth golwg360.

“Mi fyddan ni’n naturiol, fel pob cymdeithas arall, yn edrych ar y sefyllfa.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n ddigon teg i ddweud y bydden ni’n hynod o siomedig os ydi hyn am ddigwydd oherwydd ei fod o’n mynd i danseilio lot o gymdeithasau gwirfoddol sy’n gweithio’n galed i gynnal eu hunain yn ariannol, yn enwedig yn y deunaw mis diwethaf.

“Mae hwn yn mynd i lorio rhai ohonyn nhw, ac yn mynd i wneud y sefyllfa’n anodd iawn, iawn.

“Mae o’n siomedig gweld banciau mawr mewn sefyllfa gref, ond eu bod nhw hefyd ar yr un llaw yn tanseilio cymdeithasau gwirfoddol sydd efo incwm isel ofnadwy, neu gyfrifon isel, ond arian sy’n bwysig iawn i’w cynnal nhw.

“Mae’n siomedig â dweud y lleiaf.”

‘Dipyn o slap

Yn ôl Sandra Lewis, trysorydd papur bro Ffestiniog, gallai’r newidiadau fod yn “dipyn o slap” i’r papur.

“Mae o’n lot i dalu bob blwyddyn, ac maen nhw’n codi pethau o hyd,” meddai Sandra Lewis, trysorydd Llafar Bro, wrth golwg360.

“Mae’r papur bro yn gweithio’n galed i gael rhoddion, ac i gael arian i dalu a subsidiseio pethau.”

Sieciau mae’r rhan fwyaf yn eu defnyddio wrth roi arian tuag at y papur bro, meddai Sandra Lewis, a byddai codi 40c am eu defnyddio’n cael effaith.

“Dw i’n bancio lot o sieciau mewn blwyddyn, mi fyddai hwnna’n dipyn o slap i ni fel papur bro,” meddai.

“Mae o’n mynd i wneud gwahaniaeth. Ac mae hynny ar ben y £60!

“Dydi o ddim yn deg ar elusennau chwaith. Dydi hyn ddim yn newydd da iawn o gwbl.”

Mae’r banc HSBC agosaf i Flaenau Ffestiniog ym Mhorthmadog, tua deuddeg milltir o’r dref, ac mae costau teithio yno i fancio’n cyfrannu at yr ergyd, meddai.

“Mae rhywun hefyd yn gorfod teithio lawr i Borthmadog i wneud hyn i gyd, sy’n gost ychwanegol wedyn.

“Dydi o ddim yn rhywbeth rydan ni isio’i glywed, mae hynny’n bendant.”