Bydd cwis newydd sbon ymysg y rhaglenni ar BBC Radio Cymru fel rhan o wythnos arbennig i ddysgwyr rhwng 10 a 15 Hydref.

Dyma fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg gael ei chynnal ar yr orsaf, ac mae’n cael ei drefnu ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Drwy gydol yr wythnos, bydd dysgwyr sydd newydd ddechrau arni a rhai sy’n rhugl yn siarad am eu profiadau mewn sawl rhaglen arbennig.

Amserlen

Ymysg y rhaglenni fydd ar yn ystod yr wythnos fydd cwis Cystadleu-IAITH, sy’n cael ei gyflwyno gan y comedïwr Noel James.

Bydd y cwis yn darlledu pob amser cinio o ddydd Llun (11 Hydref) i ddydd Gwener (15 Hydref), gyda phob un o’r cystadleuwyr yn ddysgwyr Cymraeg.

Hefyd yn ystod yr wythnos, bydd pedair rhaglen ddogfen ar ffurf dyddiadur o’r enw Cymry Newydd y Cyfnod Clo, sy’n cael eu cyflwyno gan Beca Brown.

Beca Brown, a fydd yn cyflwyno rhaglenni dogfen Cymry Newydd y Cyfnod Clo

Yn newydd eleni, bydd digwyddiadau rhithiol yn cael eu cynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg, sef un sesiwn holi ac ateb ar nos Lun (11 Hydref) gyda chyflwynwyr yr orsaf.

Yn ogystal, bydd cyfle unigryw ar nos Wener (15 Hydref) i weld penodau newydd o’r ddrama ficro Enfys, a gafodd ei gynhyrchu ar y cyd gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd y canwr Wynne Evans, sydd ei hun wedi dysgu Cymraeg, yn cyflwyno Podlediad Pigion y Dysgwyr ar ddiwedd yr wythnos am y tro cyntaf.

Bydd nifer o sioeau arferol Radio Cymru, fel Bore Cothi a Beti a’i Phobol yn cynnwys gwestai sy’n ddysgwyr hefyd.

“Agor y drws”

Fe wnaeth Dafydd Meredydd, sef Golygydd Cynnwys newydd BBC Radio Cymru, sôn am bwysigrwydd yr wythnos wrth roi llwyfan i ddysgwyr.

“Rydym ni’n falch o allu cynnig wythnos o arlwy sy’n dathlu a chroesawu siaradwyr Cymraeg newydd,” meddai.

Dafydd Meredydd, Golygydd Cynnwys newydd BBC Radio Cymru

“Rydym yn gwybod fod Radio Cymru yn adnodd pwysig i amryw o ddysgwyr ac yn gallu agor y drws iddynt i ddiwylliant Cymraeg ehangach.

“Rydym hefyd yn falch o roi platfform i leisiau dysgwyr ein iaith, ac yn gobeithio y byddan nhw yn gyfranwyr cyson ar Radio Cymru yn dilyn yr wythnos arbennig yma.”

“Dathlu cyfraniad hollbwysig dysgwyr”

Mae Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn “hynod falch” o allu cyd-weithio â Radio Cymru wrth drefnu’r wythnos.

“Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio’u Cymraeg yn rhan fawr o waith y Ganolfan, yn ogystal â chyflwyno dysgwyr i ddiwylliant cyfoes Cymraeg,” meddai.

“Mae’r wythnos yn ateb y galw yma ac yn dathlu cyfraniad hollbwysig dysgwyr hefyd.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at glywed straeon anhygoel ein siaradwyr Cymraeg newydd ar yr awyr.”