Roedd yna “fwrlwm” ar draws tref Wrecsam neithiwr (nos Iau, 7 Hydref) wrth i ŵyl Focus Wales ddechrau.

Y penwythnos hwn mi fydd yna gigs yn cael eu cynnal mewn amryw o leoliadau, gyda’r ŵyl yn rhoi llwyfan i tua 300 o fandiau ac artistiaid bob blwyddyn.

Erbyn hyn mae yn ddigwyddiad sy’n denu pobol o bob cwr o’r byd ac yn llwyfan rhyngwladol i fandiau o Gymru a thu hwnt.

Un band fuodd yn brysur iawn neithiwr oedd Kim Hon.

Perfformiodd y band o Arfon mewn dau leoliad gwahanol – ym mhabell Hwb Cymraeg, ac yna yn nhafarn y Wynnstay Arms.

“Dau gig class chwarae teg,” meddai Iwan Llyr, gitarydd Kim Hon.

“Roedd yr Hwb Cymraeg yn hollol lawn, ac wedyn aethon ni fyny i’r Wynnstay Arms.

“Mi ddaru’r [gig] cyntaf ysgwyd y cob-webs i ffwrdd, ac wedyn yn yr ail un, ddaru ni benderfynu gwneud set mwy experimental – gwneud ‘chydig o reggae ac ati.

“Un peth sy’n rhaid i mi ddweud ydi bod y sain yn wych yn y ddau leoliad, roedd pawb yn gwybod yn iawn beth roedden nhw’n ei wneud.

“Roedd yr amps ac ati i gyd yna yn barod i ni felly doedd dim gwaith cario – grêt!”

‘Fel gig cyn y pandemig’

Sut beth oedd perfformio heb ganllawiau diogelwch mewn grym felly?

“Roedd o fel bod yn ôl mewn gig fel oedd hi cyn i hyn i gyd ddigwydd mewn ffordd,” meddai Iwan Llyr.

“Mae o’n helpu pan ti’n cael pobol yn neidio o gwmpas ac yn mwynhau eu hunain yn hytrach na bod yn pent up.

“Roedd Hwb Cymraeg yn debyg iawn i’r gig cynta’ ddaru ni (ar ôl y pandemig) yn Gŵyl Greenman o ran ein bod ni mewn pabell fawr.

“Ac wedyn y gig yn y Wynnastay Arms oedd y cynta’ ryda ni wedi’i wneud y tu mewn ers dechrau’r pandemig.

“Ac roedd hynny yn braf oherwydd mae hi wedi bod yn dipyn ers i ni gael perfformio o flaen cynulleidfa gall – oni bai am Greenman Festival.”

“Bwrlwm”

“Mi oedd o’n rili braf gweld lot o bobol yn cerdded o le i le, gweld pobol yn rhedeg heibio chdi’n dweud: ‘Ah! Dw i ar frys, dw i eisio dal so and so.’

“Roedd yna fwrlwm yn y dref.

“Gafon ni un boi yn gofyn pwy oedden ni, a dyma ni’n dweud mai Oasis oedden ni.

“Mi’r oedda chdi’n gallu dweud yn yr awyr fod yno rywbeth arbennig yn mynd ymlaen yna a dw i’n meddwl y bydd pethau’n gwella hyd yn oed mwy dros y penwythnos.”

Am fwy o fanylion am Focus Wales, ewch i:

FOCUS Wales 2021