Bu farw Gerallt Llywelyn, un o ffotograffwyr amlycaf y byd ffilm, theatr a cherddoriaeth poblogaidd Cymraeg ers yr 1970au.
Byddai yn tynnu lluniau ar set cyfresi S4C fel Macsen, Hufen a Moch Bach ac Anturiaethau Syr Wynff a Phlwmsan a bu’n gyfaill agos i’r diwydiant. Yn ei deyrnged ar Facebook, dywedodd yr actor Wynford Elis Owen: ‘Colled fawr yw colli Gerallt. Bu’n cofnodi â’i gamera hynt a helynt Syr Wynff a Plwmsan a sawl cynhyrchiad arall rhy niferus i’w henwi dros y blynyddoedd . Hen foi iawn a chyfaill gwerth ei gael.’
Gerallt Llywelyn a fyddai’n tynnu lluniau ar gyfer cwmnïau theatr fel Bara Caws. Roedd yn un o ffotograffwyr amlycaf y Wasg Gymraeg, a bu’n tynnu lluniau ar ran cylchgrawn Golwg am flynyddoedd lawer.
Cerddor
Dysgodd y gitâr acwstig pan oedd yn iau oherwydd yr adfywiad gwerin mawr o dan ddylanwad Bob Dylan, Pete Seeger a’u teip, a theithiodd am gyfnod yn rhan o driawd gyda’i gyfeillion Trefor Jones a Bryn James.
Roedd Gerallt yn rhan o’r criw a ddechreuodd seiswn werin yn y Goat, Llanwnda adeg Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon yn 2012. Aethpwyd â’r sesiynau wedyn i’r Mount yn Dinas, y Pen Nionyn yn y Groeslon, y Newborough yn Bontnewydd ger Caernarfon, a maes o law i Fangor i dafarnau fel y Nelson, y Boatyard, a’r Waverley.
Iwerddon
Ers bron i 30 mlynedd, fe deithiai bob mis Chwefror i orllewin Iwerddon, i fod yn rhan o’r ‘Welsh Weekend’ mewn gŵyl werin yn Baile Uí Bheacháin (Ballyvaughan), Swydd Clare. Gwnaeth gyfeillion agos yno, a rheiny yn dod i ymweld â’r sesiynau yng Nghymru yn eu tro.
Bu’n gyfrifol am dynnu rhai o luniau mwyaf eiconig y sîn roc Gymraeg, fel y llun sydd ar glawr record hir Meic Stevens, Gitâr yn y Twll Dan Stâr, a gafodd ei dynnu yng nghartref y ffotograffydd.
Bu’n gweithio gyda Gai Toms ar ei record hir Orig yn 2019. Ar ôl clywed y newyddion am ei farwolaeth, dywedodd y canwr-gyfansoddwr ar Facebook: ‘Balch o dy gyfarfod gyfaill, hebddot ti, fysa prosiect Orig ddim yr un fath. Cymro, ffotograffydd, archifwr, dogfennwr, cerddor, gŵr bonheddig … Cydymdeimladau i’r teulu.’