Fe fydd elusen iechyd meddwl, sy’n darparu gwasanaethau i bobol yng nghefn gwlad, yn ehangu i ogledd Cymru ar ôl derbyn bron £50,000 o nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y DPJ Foundation ei sefydlu tair blynedd yn ôl gan Emma Picton-Jones o Sir Benfro er cof am ei gŵr, Daniel, a fu farw trwy hunanladdiad.
Prif nod yr elusen yw helpu pobol o fewn y gymdeithas wledig sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig ffermwyr.
Ar hyn o bryd, mae’r elusen ond yn cynnig gwasanaethau yn Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan yr elusen “ran allweddol i’w chwarae” wrth chwalu’r stigma sy’n wynebu ffermwyr sydd am siarad am eu hiechyd meddwl.
Y gwasanaethau
Fe fydd rhan o’r arian nawdd yn cael ei ddefnyddio i roi hyfforddiant ‘Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl’ am ddim i filfeddygon a gwerthwyr bwydydd anifeiliaid.
Y nod yw eu dysgu i allu adnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl yn gynt, a rhoi cyngor i ffermwyr ar ble y gallan nhw fynd i gael help o fewn eu hardal.
Fe fydd yr arian hefyd yn helpu’r DPJ Foundation i ehangu ei gwasanaeth ‘Rhannu’r Baich’, sy’n darparu chwe sesiwn cwnsela personol am ddim, i siroedd y gogledd.
Dywed Emma Picton-Jones fod y nawdd am alluogi cymunedau gwledig “i filwrio yn erbyn problemau iechyd meddwl”.