Mae dynes 37 oed o ardal Townhill yn Abertawe wedi’i chadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar ôl i’w char fynd dros glogwyn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fae Limeslade yn y ddinas am oddeutu 6 o’r gloch fore ddoe (dydd Mawrth, Awst 13).

Roedd y car wedi mynd dros ddibyn clogwyn i mewn i’r môr, a bron iawn i’r cerbyd suddo’n gyfangwbl.

Llwyddodd y ddynes i ddianc a nofio i’r lan cyn ceisio cymorth a chael ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.