Mae’r Gymraes adnabyddus Alex Jones yn dweud ei bod hi’n “hynod gyffrous” wrth gael cyflwyno’r rhaglen newydd Reunion Hotel ar BBC Two.

Mae’r gyfres chwe rhaglen, a fydd wedi ei lleoli yng Nghymru, wedi ei seilio ar gyfres arall, Gwesty Aduniad, a gafodd ei chynhyrchu ar gyfer S4C.

Bydd y rhaglen yn dangos gwesteion yn ailgysylltu â phobol sydd wedi chwarae rhan bwysig yn eu bywydau, wedi blynyddoedd maith, gan gynnwys athrawon a hen ffrindiau.

Mae disgwyl i’r gyfres fod ar deledu yn gynnar yn 2023, ac mae yn rhan o strategaeth y BBC i adlewyrchu holl ranbarthau Prydain.

Aduno hen gyfeillion

Ymhob pennod, bydd Alex Jones yn croesawu gwesteion i westy yng ngogledd ddwyrain Cymru, ac yn eu paratoi nhw cyn iddyn nhw gyfarfod eu hen gyfeillion.

“Mae’n hynod gyffrous gallu chwarae rhan annatod yn aduniad aelodau teulu, ffrindiau coll, a chariadon y gorffennol,” meddai.

“Rydw i’n edrych ymlaen gymaint at gyrraedd y gwesty i helpu i ddod â’r straeon twymgalon hyn yn fyw, a helpu’r gwesteion i ailgysylltu â rhan o’u bywydau roedden nhw’n meddwl oedd wedi’i golli.”

Fe eglurodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales, ychydig yn fwy am y rhaglen.

“Mae Reunion Hotel yn canolbwyntio ar ailgysylltu pobl â rhywun arwyddocaol o’u gorffennol, a chreu profiad gwirioneddol emosiynol i bawb dan sylw,” meddai.

“Bydd y comisiwn hwn [rhwng BBC Cymru Wales] a BBC Two yn arddangos ac yn adlewyrchu Cymru i gynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.”