Bydd y sêr sy’n cymryd rhan yn I’m A Celebrity… Get Me Out of Here yn wynebu heriau newydd wrth iddyn nhw fynd i mewn i gastell Gwrych heno (nos Sul, Tachwedd 21).

Yn eu plith mae her y trychfilod yn y castell, a cherdded ar ddarn o bren gannoedd o droedfeddi yn yr awyr.

Mae’r gyfres boblogaidd yn dychwelyd i Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol o ganlyniad i gyfyngiadau teithio Covid-19 sy’n atal y criw rhag ffilmio yn Awstralia.

Bydd y sêr yn cael eu rhannu’n ddau grŵp wrth iddyn nhw gystadlu am allweddi’r castell er mwyn penderfynu pwy fydd yn aros ar y prif safle gyda bwyd a gwely, a phwy fydd yn gorfod mynd i “Glinc y Castell” a chael dognau bach.

Yn ôl y cyflwynydd Ant McPartlin, fe fydd y gyfres eleni’n “fwy anodd nag erioed”, wrth i’r enwogion wynebu heriau cyn hyd yn oed mynd i mewn i’r castell.

Bydd y ddarlledwraig Louise Minchin yn herio’r actor Danny Miller (Emmerdale), tra bydd DJ Snoochie yn mynd benben â’r cynhyrchydd cerddoriaeth Naughty Boy wrth iddyn nhw groesi darn mawr o bren 213 o droedfeddi yn yr awyr uwchlaw llyn chwarel.

Bydd yr enillwyr yn cael dewis dau seleb o’r grŵp arall i ymuno â’u tîm.

Tro’r grŵp arall fydd hi wedyn, gydag Arlene Phillips (Strictly Come Dancing) yn herio’r cyn-bêldroediwr David Ginola, gyda’r deifiwr Olympaidd Matty Lee a’r seren Baralympaidd Kadeena Cox yn mynd benben.

Byddan nhw’n cydweithio i ddatgloi dau focs, ond byddan nhw’n gorfod rhoi eu breichiau mewn tyllau.

Treialon

Byddan nhw’n ymgasglu wedyn wrth y “turrets of terror”, strwythur tair lefel o flaen y castell, lle bydd y treialon cyntaf yn cael eu cynnal.

Y darlledwr Richard Madeley a’r gantores Frankie Bridge fydd y cystadleuwyr cyntaf i gymryd rhan mewn treialon, a hynny ar sail pleidlais gyhoeddus.

Bydd yn rhaid iddyn nhw frwydro yn erbyn ei gilydd i gyrraedd y brig i geisio allwedd i ddrws y castell, ond byddan nhw’n wynebu drysau sydd wedi’u cloi a thrychfilod.

Bydd y tîm buddugol yn cael dewis eu cynrychiolydd nesaf.

Bydd y bennod gyntaf ar ITV heno (nos Sul, Tachwedd 21) am 9 o’r gloch, a’r selebs sy’n cymryd rhan yw Richard Madeley, Arlene Phillips, Frankie Bridge, Matty Lee, Naughty Boy, Danny Miller, Kadeena Cox, David Ginola, Snoochie Shy a Louise Minchin.

Y sïon ar hyn o bryd yw y bydd Simon Gregson ac Adam Woodyatt yn ymuno â nhw yn ddiweddarach yn y gyfres.

Diogelwch

Cyn dechrau’r gyfres newydd, mae mesurau diogelwch wedi’u cyflwyno ger castell Gwrych er mwyn gwneud y lleoliad yn fwy diogel i bobol sy’n mynd heibio wrth i’r ffilmio fynd rhagddo.

Bu farw Sharn Hughes, 58 oed o Brestatyn, yno ar Dachwedd 21 y llynedd ar ôl cael ei tharo gan gar wrth iddi dynnu lluniau yn Llanddulas.

Mae terfyn cyflymdra newydd wedi’i gyflwyno gan yr heddlu, sy’n dweud y byddan nhw’n tywys ceir oddi yno os ydyn nhw wedi’u parcio’n anghyfreithlon.

 

Erfyn ar griw rhaglen ‘I’m a Celebrity’ i roi’r gorau i ddefnyddio anifeiliaid byw

“Yng ngogledd Cymru, gwelon ni anifeiliaid yn cael eu rhoi mewn sefyllfaoedd pryderus iawn, gyda phryfed mewn perygl o gael eu gwasgu a’u lladd”

Cyfres I’m a Celebrity wedi bod yn hwb mawr i Glwb Golff Abergele

Mae mwy o bobol wedi ymweld â’r cwrs golff ers i’r gyfres boblogaidd gael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych y llynedd

Cyhoeddi lein-yp ail gyfres I’m a Celebrity yng Nghymru

Y cyflwynydd teledu Richard Madeley a’r coreograffydd Arlene Phillips ymhlith y cystadleuwyr

Ant McPartlin yn diolch i Gymru wedi i I’m a Celebrity… ddod i’r brig yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol

It’s A Sin, After Life, a The Great British Bakeoff ymysg yr enillwyr eraill eleni

I’m a Celebrity Get Me Out of Here i ddychwelyd i Gastell Gwrych

Y gyfres y llynedd yng Nghastell Gwrych oedd yr ail gyfres fwyaf poblogaidd ers i’r rhaglen ddechrau

Giovanna Fletcher yw Brenhines Castell Gwrych

Cafodd y gyflwynwraig podlediadau ei choroni’n enillydd I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! yng nghastell Gwrych neithiwr (nos Wener, Rhagfyr 4)