Ysgrifennodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud ei fod yn poeni y gallai rhywun farw wrth i’r aflonyddwch yng Ngwesty Parc y Strade gynyddu.

“Mae niwed mawr wedi’i achosi i Lanelli a Sir Gaerfyrddin dros y chwe mis diwethaf,” meddai’r Cynghorydd Darren Price wrth siarad yng nghyfarfod llawn y Cyngor.

Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar Hydref 10 eu bod nhw’n tynnu’n ôl y cynlluniau i gartrefu hyd at 240 o geiswyr lloches yn y gwesty yn ardal Ffwrnes y dref, chwe mis ar ôl i’r newyddion am y cynnig ddod i’r fei.

Ddyddiau cyn hynny, torrodd beicwyr a dwsinau o brotestwyr i mewn i dir y gwesty.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod rhai ffenestri wedi cael eu torri a bod tân wedi’i gynnau am yr eildro dros gyfnod o ddeuddydd.

Cafodd pobol eu harestio, a rhagor eto dridiau’n ddiweddarach yn dilyn golygfeydd llawn tyndra.

Pryderon

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price ei fod e a’r Prif Weithredwr Wendy Waters wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yr wythnos ddiwethaf yn mynegi eu pryderon.

“Roedden ni wirioneddol yn poeni y gallai ddatblygu i golli bywydau,” meddai.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru [ar y Cyngor] fod 95 o swyddi ac ased i dwristiaid wedi’u colli yn y gwesty.

Yn fwyaf pryderus, meddai, oedd y “rhaniad mawr” oedd wedi cael ei greu – rhaniad “gafodd ei helpu a’i ategu” gan rai pobol sy’n “poeni dim am Lanelli” ac nad oedden nhw’n gwybod lle’r oedd e ymlaen llaw.

Diolchodd y Cynghorydd Darren Price i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth drwyddi draw.

Dywedodd fod “nifer o bobol wedi ceisio portreadu Llywodraeth Cymru fel gelyn yn y stori hon”, ond mewn gwirionedd eu bod nhw’n “ddim byd ond cefnogol” i’r sawl sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau ar gyfer y gwesty.

“Mae gennym ni rai pobol yn ceisio creu darlun bod hyn wedi’i yrru rywsut gan wleidyddion lleol neu Lywodraeth Cymru,” meddai wedyn.

“Mae hynny’n bell iawn oddi wrth y gwirionedd.”

Dywedodd ei fod e wedi siarad â Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, ar “achlysuron dirifedi”, ond nad yw e wedi cael yr un sgwrs â gweinidog o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Croesawu tro pedol

Wrth groesawu tro pedol y Swyddfa Gartref, dywedodd y Cynghorydd Darren Price nad yw ymateb yr awdurdod i’r cynnig “yn fater o ddweud Na” wrth geiswyr lloches.

“Rydyn ni wedi croesawu teuluoedd o Wcráin, Syria ac Affganistan a byddwn ni’n parhau i wneud hynny,” meddai.

“Mae’n bwysig fod pobol yn treulio amser yn myfyrio ar y rhan y gwnaethon nhw ei chwarae yn y broses.

“Mae yna sawl cyfeillgarwch teuluol sydd wedi cael eu profi, ac mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n symud yn ein blaenau.”

Beth am y staff?

Dywedodd perchnogion y gwesty yr wythnos hon eu bod nhw wrthi’n ailgyflogi staff y gwesty, a’u bod nhw’n bwriadu ailgyflwyno’r gwasanaethau arferol cyn gynted â phosib.

“Mae’n amlwg bod yna bontydd sydd angen cael eu hadeiladu,” meddai’r Cynghorydd Darren Price.

“Dw i’n ymwybodol o ddiddordeb yn y gymuned i [gaffael] y gwesty.

“Dylen ni wneud popeth allwn ni i ddod o hyd i ddatrysiad sy’n dderbyniol yn lleol.”

Dywedodd Martyn Palfreman, cynghorydd yn Llanelli, ei fod e’n teimlo erioed fod y cynnig yn un amhriodol i’r gwesty, i Ffwrnes, ac i geiswyr lloches fyddai wedi cael eu cartrefu yno.

Beirniadaeth a “golygfeydd erchyll”

Diolchodd y Cynghorydd Martyn Palfreman, sy’n cynrychioli ward Hengoed, wrth Lee Waters, Aelod o’r Senedd dros Lanelli, a’r Fonesig Nia Griffith, yr Aelod Seneddol, am eu cefnogaeth er gwaethaf “toreth o feirniadaeth annheg iawn” roedden nhw wedi’i derbyn.

Dywedodd fod pobol sy’n byw ger y gwesty wedi’u rhoi dan “straen annisgrifiadwy a dibaid”.

Roedd y rheiny oedd yn gwrthwynebu cynllun y Swyddfa Gartref wedi’u “treiddio gan nifer o grwpiau eithafol yn pedlera camwirioneddau” ac yn ceisio portreadu naratif gwrth-fewnfudwyr yn Llanelli.

“Dw i’n dal i gredu bod Llanelli’n gymuned groesawgar yn ei hanfod,” meddai.

Roedd Edward Skinner, cynghorydd arall yn Hengoed, wedi’i chael hi’n anodd cuddio’r emosiwn yn ei lais wrth siarad am “olygfeydd erchyll” dros yr wythnosau diwethaf.

Diolchodd i Bwyllgor Gweithredu Ffwrnes – y grŵp o drigolion lleol oedd wedi ceisio atal cynnig y Swyddfa Gartref – a hefyd yr heddlu am eu hymateb i’r digwyddiadau.

“Pan welwch chi sut mae [plismyn] yn cael eu trin ar y strydoedd, mae’n erchyll ac yn ofnadwy,” meddai.

Cwestiynau i’w hateb

Wrth siarad â BBC Cymru ddoe (dydd Mawrth, Hydref 10), dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, y byddai’n gofyn i’r Swyddfa Gartref pwy oedd wedi llofnodi’r achos busnes y cynllun ar gyfer llety i geiswyr lloches, a phwy fyddai’n talu’r gost ychwanegol o blismona a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Ar yr un rhaglen, cafodd y Fonesig Nia Griffith AS ei herio ynghylch yr awgrym ei bod hi – yn aelod blaenllaw o Lafur Cymru – wedi cymryd agwedd foesol gan ddweud bod Cymru’n genedl noddfa, ond ei bod hi wedi gwrthwynebu pan gafodd ychydig dros 200 o geiswyr lloches eu clustnodi ar gyfer tref â phoblogaeth o 35,000.

Dywedodd y Fonesig Nia Griffith fod y gwesty’n anaddas o’r dechrau’n deg, ac yn ei barn hi y dylai’r Swyddfa Gartref fod wedi ymgynghori yn y lle cyntaf â Llywodraeth Cymru a chynghorau, gan ofyn pa opsiynau oedd ar gael yn eu hardaloedd nhw.

“Dw i’n credu mai’r pwynt yw, nad ydyn ni erioed wedi cuddio rhag chwarae ein rhan,” meddai.

“Rydyn ni wedi derbyn ceiswyr lloches yn cael eu gwasgaru yn y gymuned, fel y mae llefydd eraill yng Nghymru.”

Dafydd Llywelyn

Gwesty ceiswyr lloches: ‘Hanfodol bod y Swyddfa Gartref yn atebol am eu diffyg cynllunio’

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn feirniadol o’r broses wedi tro pedol am Westy Parc y Strade yn Llanelli

Tro pedol ar y cynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli

Y bwriad oedd cartrefu 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade, ond mae’r Swyddfa Gartref yn dweud na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â’r cynlluniau

Gwesty Parc y Strade: “Y lle anghywir a’r cynllun anghywir” i gartrefu ceiswyr lloches

Daw ymateb Lee Waters ar ôl i’r gwasanaethau brys ddweud nad yw’r safle yn Llanelli’n ddiogel
Heddwas

Gwesty Parc y Strade: Arestio chwech o bobol ar ôl i ddau dân gael eu cynnau

Fe fu protestwyr yn ymgynnull ar y safle yn Llanelli dros y penwythnos