Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi’i enwi’n Sefydliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2023.

Cafodd ei seremoni ei chynnal yng ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd nos Fercher (Hydref 11).

Mae’r elusen wedi’u cydnabod am eu cyfraniad eithriadol wrth gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid ledled Cymru.

Fe wnaethon nhw guro Calan DVS, Cycling4all, FareShare Cymru a Llamau wrth gipio’r brif wobr, wrth iddyn nhw gael eu canmol am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf i gartrefu dros 200 o ffoaduriaid fyddai wedi bod yn ddigartref fel arall, ac am sefydlu prosiect Cymru gyfan er budd dros 1,700 o Wcreiniaid.

“Dw i wrth fy modd yn derbyn y wobr hon ar ran gwirfoddolwyr a staff Cyngor Ffoaduriaid Cymru sy’n helpu ceiswyr noddfa i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru,” meddai Andrea Cleaver, Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

“Er gwaetha’r atgasedd sydd wedi’i ddangos gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dw i wedi fy nghyffwrdd gan weithredoedd caredig dyddiol ein staff a’n gwirfoddolwyr.

“Dw i mor falch fod Cymru’n Genedl Noddfa.”

Cymharu’r Cyngor Ffoaduriaid â’r Urdd

Mae Matt Brown o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, wedi cymharu Cyngor Ffoaduriaid Cymru â’r Urdd o ran eu rhinweddau.

“Fel yr Urdd, enillodd Sefydliad y Flwyddyn y llynedd, mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru’n esiampl o bopeth sy’n dda am y sector,” meddai.

“Yn ogystal â chreu gwasanaethau uniongyrchol ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, mae wedi rhoi llais i’r sawl sydd fwyaf ar y cyrion yn ein cymdeithas, ac wedi ymgorffori Cymru fel Cenedl Noddfa.

“Fel ein saith enillydd arall, mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi cyflawni cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw’n uchel eu parch a’u hedmygedd gan eraill yn y sector am newid bywydau er gwell.

“Rydym wrth ein boddau yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru o gael anrhydeddu’r wyth enillydd teilwng hyn.”

Y gwobrau

A hithau wedi’i threfnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, dyma’r unig seremoni wobrwyo sy’n dathlu sector gwirfoddol cyfan Cymru yn benodol, gan gydnabod a dathlu cyfraniad arbennig elusennau, grwpiau cymunedol, sefydliadau nid-er-elw a gwirfoddolwyr i Gymru, gan dynnu sylw a hybu’r gwahaniaeth positif maen nhw’n ei wneud i fywydau pobol.

Mae’r gwobrau’n dathlu rhai o’r straeon arbennig sy’n deillio o’r gwahaniaeth mae elusennau a gwirfoddolwyr yn ei wneud.


Yr enillwyr yn llawn

Nicola Harteveld, sylfaenydd Sefydliad Megan’s Starr – Gwirfoddolwr y Flwyddyn (dros 26 oed)

Sara Madi, ceisiwr lloches sy’n wirfoddolwraig – Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (dan 25 oed)

Tŷ Hafan – Cynhyrchydd Incwm y Flwyddyn (£344,649 tuag at ofal diwedd oes)

Rhwydwaith cydraddoldeb i fenywod WEN Cymru – Pencampwr Amrywiaeth

Cymdeithas Alzheimer Cymru – Y Defnydd Gorau o’r Gymraeg am eu llinell gymorth

Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru – Gwobr Torri Tir Newydd am y Pantri sy’n cynnig bwyd fforddiadwy drwy ailgylchu

Wye Gymnastics & Galaxy Cheerleading – Gwobr Iechyd a Lles am ddefnyddio chwaraeon mewn ffordd gynhwysol i annog newid positif yn Sir Fynwy a Chasnewydd