Mae rheolwr a chapten tîm pêl-droed Cymru’n mynnu eu bod nhw’n cau allan unrhyw sŵn o’r tu allan i’r garfan am y dyfodol, yn dilyn adroddiadau bod gan Rob Page dair gêm i brofi ei hun cyn y bydd adolygiad yn cael ei gynnal.

Mae Cymru’n wynebu tair gêm enfawr yn niwedd eu hymgyrch i gyrraedd Ewro 2024, gan ddechrau heno (nos Sul, Hydref 15) yn erbyn Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd (7.45).

Bydd ganddyn nhw ddwy gêm yr un mor fawr wedyn fis nesaf, wrth deithio i Armenia (Tachwedd 18) a chroesawu Twrci i Gaerdydd (Tachwedd 21).

Mae Rob Page a Ben Davies, ill dau, yn cydnabod na fydd unrhyw beth ond buddugoliaeth ym mhob un o’r tair gêm yn ddigon i gyrraedd y rowndiau terfynol yn awtomatig – eu pedwerydd twrnament yn olynol.

Ac mae Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi megino’r tân gyda sylwadau oedd wedi dod i’r golwg ddiwrnod cyn y gêm fawr.

Fe ddywedodd na all Cymru “barhau i golli”, a bod rhaid “symud ymlaen bob amser”, ond yn fwyaf oll y bydd adolygiad ar ôl y tair gêm sydd i ddod.

Er mwyn pwysleisio’r undod y cyfeiriodd Page a Davies ato yn ystod cynhadledd i’r wasg yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 15), roedd sawl aelod o’r tîm hyfforddi’n bresennol yn yr ystafell wrth i Page siarad yn emosiynol am ei angerdd o fod yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol.

‘Dyfalu yn unig’

Yn ôl Rob Page, “dyfalu” a “sŵn” yn unig yw’r holl sôn am ei ddyfodol, ac mae’n dweud nad yw e wedi siarad â Noel Mooney am y dyfodol eto.

Serch hynny, mae’n dweud iddo lofnodi cytundeb pedair blynedd ac mai ei fwriad yw anrhydeddu’r cytundeb hwnnw.

“Rhaid i ni anwybyddu’r holl sŵn,” meddai.

“Sŵn yw e, a dyna ni.

“Felly rydyn ni’n ceisio gwarchod y chwaraewyr cymaint â phosib.

“Byddwn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar y gêm.

“Dw i heb siarad â’r Prif Weithredwr, felly dyfalu yw e.

“Dw i heb siarad â fe am y peth, felly allwn i ddim dweud wrthoch chi a yw’n wir neu beidio.

“Y cyfan sydd angen i fi ganolbwyntio arno fe yw, cyn Cwpan y Byd fe wnes i lofnodi cytundeb pedair blynedd a’r cynllun tymor hir i fi yw dechrau cyflwyno chwaraewyr ifainc i’r grŵp.”

Chwaraewyr ifainc

Er gwaethaf rhywfaint o feirniadaeth am ddewis chwaraewyr ifanc a’r golled fawr o 4-2 yn erbyn Armenia yn yr haf, doedd fawr o ddewis gan Rob Page ond gwneud yr hyn wnaeth e sawl gwaith, yn sgil anafiadau i rai o’r chwaraewyr allweddol, gan gynnwys Aaron Ramsey, ac wrth geisio symud ymlaen at ddyfodol heb Gareth Bale a Joe Allen.

Yn ôl Rob Page, mae Cymru yng nghanol cyfnod o newid unwaith eto.

“Rydyn ni wedi dweud hyn drosodd a throsodd,” meddai.

“Rydyn ni’n colli chwaraewyr mawr fel Joe Allen a Gareth Bale, nid yn unig o ran yr hyn maen nhw’n dod gyda nhw i’r cae, ond hefyd y gwerth maen nhw’n ei ychwanegu yn yr ystafell newid.

“Rydyn ni wedi gweld y doniau sydd gyda ni’n dod drwodd, rydyn ni’n datblygu’r chwaraewyr ifainc hyn ac mae’n mynd i gymryd amser.”

Dywed Rob Page ei fod yn “deall y rhwystredigaeth” a’u bod nhw eisiau ennill gemau.

“Ond mae angen rhywfaint o bersbectif,” meddai.

“Dw i’n gwneud yr hyn sydd orau i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, nid i fi fy hun.”

Wrth drafod cefnogaeth ei dîm hyfforddi, dywed na fu’r un amheuaeth ganddo am hynny erioed.

“Dw i’n difaru na all y cefnogwyr na chi [y wasg] weld yr hyn sydd gyda fi yn yr ystafell newid,” meddai’n ddagreuol. “Mae’n anhygoel, mae’n golygu cryn dipyn.

“Fel grŵp yn yr ystafell newid honno, fel grŵp o staff, rydyn ni’n agos iawn.”

Cefnogaeth y chwaraewyr

Yn ôl Ben Davies, sy’n gapten yn lle Aaron Ramsey ar hyn o bryd, dydy sylwadau Noel Mooney “ddim yn helpu” o dan yr amgylchiadau.

“Dydyn ni ddim eisiau i sŵn ddod o’r tu fewn i’r sefydliad.

“Rydyn ni’n gobeithio bod pawb ar yr un dudalen.

“Mae’n siomedig clywed, ond cyn belled â’n bod ni yn y cwestiwn, dydyn ni ddim yn canolbwyntio arno fe.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar y gêm yn erbyn Croatia.

“Mae [y sŵn] wedi cael ei frwsio dan y carped cyn belled â’n bod ni yn y cwestiwn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y gêm.”

Ydy’r sefyllfa wedi treiddio i’r garfan, serch hynny?

“So fi’n credu bod yr awyrgylch wedi newid lot, i fod yn onest,” meddai.

“Ni’n gwybod beth sydd angen i ni wneud yn y gemau nesaf, ac mae hwnna’n dechrau gyda gêm enfawr yn erbyn Croatia.

“Ni’n mynd mewn i’r gêm yn ceisio ennill, a cheisio mynd i’r gêm olaf gyda siawns.

“Ni’n edrych ymlaen at y gemau, ac rydyn ni’n hyderus bo ni yn gallu ennill y gemau.

“Mae gyda ni lot o gefnogaeth dros y rheolwr.

“Rydyn ni wedi bod yn chwarae gyda’n gilydd nawr am gwpwl o flynyddoedd ac mae pawb wedi gweld beth mae e wedi gwneud dros bêl-droed Cymru, felly mae’r sŵn o’r tu allan i’r garfan.”

Troi canlyniad negyddol yn beth positif

Ydy Twrci wedi achosi ofn i Gymru wrth guro Croatia ganol yr wythnos, felly?

Yn ôl Ben Davies, mae’n fantais i Gymru mewn un ffordd, gan “ddangos bod pobol yn gallu maeddu Croatia”.

“Mae Croatia yn dîm arbennig, maen nhw wedi dangos hwnna dros y blynyddoedd,” meddai.

“Ond fel wnaeth Twrci greu lot o broblemau iddyn nhw, rydyn ni’n ceisio gwneud yr un peth.”