Mae tîm pêl-droed Cymru wedi curo Croatia o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wrth i Harry Wilson sgorio dwy gôl wrth ennill ei hanner canfed cap dros ei wlad.
Mae’r canlyniad yn cadw eu gobeithion o gymhwyso’n awtomatig ar gyfer Ewro 2024 yn fyw, wrth i’r rheolwr Rob Page barhau dan bwysau i ennill y ddwy gêm nesaf yn erbyn Armenia a Thwrci.
Maen nhw’n gydradd ail gyda Chroatia, gyda’r ddwy gêm hynny yn weddill.
Roedd sïon cyn y gêm nad yw swydd y rheolwr yn ddiogel o bell ffordd, gydag adolygiad yn debygol o gael ei gynnal oni bai eu bod nhw’n ennill y tair gêm, yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Ond mae Cymru wedi hen dawelu’r beirniaid am y tro, gan gydnabod fod y ddwy gêm dyngedfennol eto i ddod.
Hanner cyntaf o geisio rheolaeth
Aeth Cymru i mewn i’r gêm yn gwybod fod yn rhaid iddyn nhw ei hennill hi, ac roedd yr ugain munud agoriadol digon nerfus i dîm Rob Page yn adlewyrchu’r pwysau roedden nhw’n ei deimlo.
Apeliodd y crysau cochion am gic o’r smotyn yn y munudau agoriadol, ond penderfynodd y dyfarnwr Eidalaidd Davide Massa fod y bêl wedi bwrw Josip Gvardiol yn ei stumog.
Cafodd y tîm cartref gyfle cynta’r gêm ar ôl deng munud, wrth i Harry Wilson ergydio at y golwr Dominik Livakovic.
Ond daeth cyfle mawr cynta’r gêm ar ôl 22 munud, pan gafodd Wilson ei lorio gan Domagoj Vida ar ymyl y cwrt cosbi, a’r troseddwr yn gweld cerdyn melyn. Camodd Wilson i fyny a tharo’r bêl ar draws Livakovic a heibio’r postyn.
Roedd Cymru’n dal i bwyso am y gôl gyntaf ar drothwy’r hanner awr, a daeth cyfle euraid i Neco Williams o ochr chwith y cwrt cosbi, wrth iddo fe ergydio ar draws y golwr Livakovic ac ennill cic gornel, gyda pheniad Kieffer Moore yn mynd heibio’r postyn unwaith eto.
Serch hynny, roedd y cyfan yn erbyn llif y chwarae, gyda’r meddiant yn gadarn o blaid yr ymwelwyr (77%), wrth iddyn nhw achosi rhwystredigaeth i dîm Cymru oedd yn prysur chwilio am y gôl gyntaf hollbwysig i’w rhoi nhw ar ben ffordd ar ddiwedd hanner cyntaf di-sgôr.
Yr ail hanner
Daeth Cymru allan yn edrych fel tîm gwahanol ar ddechrau’r ail hanner, a dwy funud yn unig gymerodd hi i Wilson ganfod y rhwyd.
Cliriodd Danny Ward y bêl o gwrt cosbi Cymru, ac mi aeth hi i lwybr David Brooks, cyn i hwnnw greu gofod i Wilson gael tanio’r bêl â’i droed chwith heibio’r golwr.
Chwarter awr yn ddiweddarach, â hyder Cymru’n byrlymu, fe wnaeth Wilson ganfod y rhwyd am yr eildro, wrth i’r eilydd Dan James groesi’r bêl i’r cwrt cosbi o’r ochr chwith, a Wilson yn ei tharo hi am yn ôl â’i ben dros y golwr.
Ond doedd Cymru ddim am orffwys ar eu rhwyfau, ac ar ôl 67 munud fe wnaeth Ben Davies ryddhau Dan James ar yr asgell chwith, a hwnnw’n ergydio o bell ond yn llydan cyn i’r dorf fynd i hwyliau wrth forio canu ‘Yma O Hyd’ am y tro cyntaf.
Ben draw’r cae, roedd Croatia’n dechrau cwrso’r gêm, ac fe aeth ergyd Dion Drena Beljo am gic gornel, a’r ymwelwyr yn sgorio oddi ar ben Mario Pasalic yn y cwrt cosbi i’w gwneud hi’n 2-1 gyda chwarter awr yn weddill.
Gallai Pasalic fod wedi unioni’r sgôr funudau’n ddiweddarach, ond aeth ei ymgais â’i ben heibio’r postyn y tro hwnnw.
Yn union fel y munudau agoriadol, roedd y munudau olaf am fod yn rhai nerfus i dîm Rob Page wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar eu mantais, ond ei hymestyn ar yr un pryd er mwyn selio’r triphwynt.