Bydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Croatia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul (Hydref 15, 7.45yh).

Maen nhw’n llygadu eu trydydd Ewros yn olynol, ar ôl cymhwyso ar gyfer cystadlaethau 2016 a 2020.

Cyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol gyda Chris Coleman yn 2016, cyn cael crasfa o 4-0 gan Ddenmarc yn rownd yr 16 olaf o dan reolaeth Rob Page bedair blynedd yn ddiweddarach.

Mae eu gobeithion y tro hwn yn y fantol hefyd, ond beth sydd angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cymhwyso?

Beth yw sefyllfa bresennol Cymru yn eu grŵp?

Ar hyn o bryd, maen nhw’n bedwerydd yng Ngrŵp D ar ôl pum gêm. Mae ganddyn nhw’r un nifer o bwyntiau ag Armenia, ac maen nhw driphwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr nesaf. Mae gan Gymru a Chroatia un gêm wrth gefn o gymharu â’u gwrthwynebwyr eraill.

Gan fod Twrci wedi curo Croatia yn annisgwyl yr wythnos hon, mae’n debyg fod rhaid i Gymru guro Croatia a gobeithio curo Armenia a Thwrci fis nesaf.

Pa obaith sydd i Gymru?

Bydd Twrci’n cymhwyso pe baen nhw’n curo Latfia ac nad yw Cymru’n curo Croatia – neu pe bai Twrci’n cael gêm gyfartal a bod Cymru’n colli.

Byddai Cymru allan ohoni ac yn methu gorffen yn y ddau safle uchaf pe baen nhw’n colli a bod Twrci’n osgoi colli.

All Latfia ddim gorffen yn y ddau safle uchaf.

Hyd yn oed pe na bai Cymru’n cymhwyso’n awtomatig, gallen nhw gael ail gyfle o hyd, gyda’r gemau ail gyfle’n cael eu cynnal ym mis Mawrth.

Onid yw Cymru wedi bod mewn sefyllfa debyg o’r blaen?

Wel, do. Yn 2019, yn ôl Rob Page. Roedd eu gobeithion yn y fantol bryd hynny hefyd, ar ôl colli yn erbyn Croatia a Hwngari.

“Roedd yna Fehefin anodd. Dyna pryd y gwnes i gamu i fyny [i olynu Ryan Giggs yn rheolwr], ac mae angen [perfformiad tebyg] arnon ni nawr.

“Mae’r chwaraewyr wedi bod mewn sefyllfaoedd o bwysau, ac roedden nhw yma bedair blynedd yn ôl, felly bydd hynny’n helpu wrth gwrs, ein bod ni wedi bod trwy’r profiadau hynny.

“Y fuddugoliaeth yw popeth.”

Beth am newyddion y timau?

Bydd Ben Davies yn arwain Cymru yn absenoldeb Aaron Ramsey, sydd allan o’r gemau rhagbrofol ag anaf. Mae Brennan Johnson allan o’r gêm hon hefyd.

Mae disgwyl i Kieffer Moore arwain yr ymosod eto yn dilyn ei goliau ganol yr wythnos yn y fuddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Gibraltar mewn gêm gyfeillgar.

Un o’r wynebau mwyaf cyfarwydd fydd yn absennol i Groatia yw Ivan Perisic, sydd allan ag anaf hirdymor i’w goes. Mae’r ymosodwr Andrej Kramaric a’r asgellwr Luka Ivanusec allan ag anafiadau hefyd.

Ar ôl colli yn erbyn Twrci, mae disgwyl i Zlatko Dalic, rheolwr Croatia, gyhoeddi ambell newid ar gyfer y gêm yng Nghaerdydd. Y disgwyl yw y bydd Josip Brekalo yn dechrau eto. Gallai Lovro Majer, Nikola Vlasic a Bruno Petkovic gael cyfle i ddechrau’r gêm hefyd ar ôl bod yn eilyddion.