Os oedd angen hwb ar dîm pêl-droed Cymru ar ôl haf siomedig – gan gynnwys dwy golled yn erbyn Armenia a Thwrci dros yr haf – yna fe ddaeth hwnnw o rywle annisgwyl dros y dyddiau diwethaf. Buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn tîm gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Qatar, a sylwadau gan y person olaf y gellid fod wedi’i ddisgwyl.
Pan ddylai’r garfan a’r tîm hyfforddi fod wedi bod yn canolbwyntio ar y gêm dyngedfennol yn erbyn Croatia, roedd yn rhaid iddyn nhw ymdopi â’r hyn gafodd ei alw’n “sŵn o’r tu allan” – ond nid “sŵn o’r tu allan” mohono fe chwaith, ond yn hytrach gan Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Trwy adroddiadau’r wasg Brydeinig, rydyn ni bellach yn gwybod fod Page a’i dîm dan bwysau i ennill y gemau sy’n weddill ac i gyrraedd Ewro 2024, neu fe allai wynebu adolygiad o’i ddyfodol yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol.
Mae’n deg dweud bod Page – rheolwr cyntaf Cymru ers Jimmy Murphy yn 1958 i gyrraedd Cwpan y Byd – oes yna rywbeth yn y dŵr yn y Rhondda, tybed? – wedi bod ar ryw fath o rollercoaster emosiynol dros y dyddiau diwethaf.
Roedd e’n agos iawn at ddagrau pan gerddodd ei dîm hyfforddi i mewn i’r gynhadledd yng ngwesty’r Vale ddydd Sadwrn (Hydref 14) – doedd e ddim yn ymwybodol o’r arwydd o undod ymlaen llaw, meddai – ac unwaith eto ar Sgorio ac yn y gynhadledd ar ôl y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Sul, Hydref 15), pan gyfaddefodd e ei fod e’n teimlo “rhyddhad” yn sgil y canlyniad.
Gweithredu, nid siarad
Prin 24 awr cyn y gêm, daeth sylwadau gan Noel Mooney i’r golwg – ac fel dywedodd y capten Ben Davies yn ei gynhadledd yntau, “wnaethon nhw ddim helpu”. Fe gyfeiriodd Harry Wilson yn ei gyfweliad yntau hefyd at y feirniadaeth “o rywle annisgwyl”.
Yn ôl Rob Page, fe gafodd e neges yn dymuno pob lwc iddo fe a’r tîm gan Mooney ar ddiwrnod y gêm, ond gan ddatgelu nad oedd e wedi siarad â’r Prif Weithredwr am bum wythnos cyn hynny. Os oedd angen cadarnhad o berthynas sydd wedi chwalu, dyna fe. Hyd yn oed pe bai Page a Chymru’n ennill ac yn cymhwyso ar gyfer eu trydydd Ewros yn olynol – a’u pedwerydd twrnament yn olynol (rhediad sy’n cynnwys Cwpan y Byd), am ba hyd y gallai barhau’n rheolwr sy’n gwestiwn arall.
“Da yw dweud ond gwell yw gwneud,” oedd ymateb Rob Page. Ymateb urddasol oedd yn dweud y cyfan heb ddweud dim byd, cyn iddo fynd yn ei flaen i ddatgan ei rwystredigaeth yn fwy agored, gan ddisgrifio gwaith y garfan dros y dyddiau diwethaf fel “diffodd tanau”.
“Dw i wedi diflasu â gorfod parhau i ddod allan a siarad am fy nyfodol.
“Gadewch i ni jyst siarad am y bois a’r perfformiadau maen nhw wedi’u rhoi. Dw i’n mynd yn emosiynol oherwydd dw i mor falch ohonyn nhw, ac maen nhw’n haeddu’r holl ganmoliaeth maen nhw’n mynd i’w chael.
“Byddwn i’n dweud mai hwn yw perfformiad gorau fy nheyrnasiad – dw i’n eithriadol o falch. Ym mhob agwedd – sut wnaethon ni amddiffyn yn erbyn tîm gwych ag un o’r chwaraewyr canol cae gorau yn y byd. Roedden ni’n rhagorol, pob un dyn.”
Mewn undod mae nerth
Fe fu cryn sôn ers tro am yr undod o fewn y garfan, ac mae’n rhaid bod hynny’n wir neu mae’n annhebygol y byddai tro ar fyd wedi bod a bod Cymru’n dechrau cymhwyso ar gyfer twrnamaint ar ôl degawdau o dangyflawni. Mae Rob Page yn sôn yn gyson ei fod yn difaru na all y wasg fynd i mewn i’r garfan a gweld yr undod drosom ein hunain – “Wel, gwahoddwch ni” oedd ymateb nifer yn ystafell y wasg neithiwr.
Ond roedd ymateb y chwaraewyr yn eu cyfweliadau dros y penwythnos yn adrodd cyfrolau. Roedd pob un yn canmol eu rheolwr, yn trafod yr undod ac yn datgan sut yn union maen nhw’n teimlo am sylwadau Noel Mooney – rhai yn fwy amlwg na’i gilydd. Ond fe ddigwyddodd y siarad pwysicaf ar y cae, yn ôl Page.
“Doedd dim angen i unrhyw chwaraewr ddod allan a siarad,” meddai. “Maen nhw wedi profi heno eu bod nhw’n gallu rhoi perfformiad o’r radd flaenaf yn erbyn tîm da dros ben. Ers i fi gymryd drosodd [gan Ryan Giggs], dw i wedi gweld y parch sydd gan y chwaraewyr ata’ i, a’u bod nhw eisiau chwarae i fi. Does dim angen i fi ddweud unrhyw beth tu allan i hynny. Dw i jyst angen gadael i’r chwaraewyr siarad ar y cae.
“Dw i jyst eisiau canolbwyntio ar gemau pêl-droed. Rydyn ni ddwy fuddugoliaeth i ffwrdd o gymhwyso ar gyfer pedwerydd twrnament mawr [allan o bump].”
Mae sylwadau Mooney yn sicr wedi cael effaith wyrdroedig ar y garfan – ai dyna’r bwriad, pwy a ŵyr? Mae modd cwestiynu ambell ganlyniad, ac ambell berfformiad amddiffynnol, yn ystod yr ymgyrch. Ond un peth na feiddiai’r un ohonom ei feirniadu yw’r undod, yr ysbryd a’r meddylfryd sydd wedi arwain at y cyfnod mwyaf llwyddiannus yn hanes y tîm cenedlaethol.
Fe ddechreuodd y cyfnod hwnnw gyda Gary Speed, fe barhaodd e gyda Chris Coleman, ac mae Rob Page yn llwyr haeddu ei le yn y llinach hwnnw ar ôl cyrraedd Cwpan y Byd y llynedd. Mae Cymru ddwy fuddugoliaeth i ffwrdd o’r Ewros unwaith eto. Mae’r llinach yn parhau – a mawr obeithio bod y llwyddiant ar fin parhau hefyd. Haws dweud na gwneud, ydy, ond fe fydd Rob Page a’i garfan yn awyddus iawn i gael dweud eu dweud â’u cyrff yn y ddwy gêm fwyaf erioed yng ngyrfa’r rheolwr fis nesaf.