Mae Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed menywod Cymru, wedi cyhoeddi’r garfan i herio’r Almaen a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Bydd y ddwy gêm oddi cartref, y naill ar Hydref 27 a’r llall ar Hydref 31.

Mae Hannah Cain yn dychwelyd i’r garfan ar ôl bod allan fis diwethaf o ganlyniad i anaf, tra bod Josie Longhurst wedi’i galw i’r garfan yn y gobaith o ennill ei chap cyntaf, a hithau eisoes wedi chwarae i’r timau dan 17 a 19.

Dyma’r tro cyntaf erioed i Gynghrair y Cenhedloedd gael ei chynnal yng ngêm y menywod, a byddan nhw’n herio Gwlad yr Iâ, Denmarc a’r Almaen yng Nghynghrair A wrth geisio cymhwyso ar gyfer Ewro 2025.

Bydd Cymru’n herio Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd ar Ragfyr 1, a’r Almaen yn Abertawe ar Ragfyr 5, gyda’r tocynnau’n £10 i oedolion, £5 i blant ac ar gael am bris gostyngedig i aelodau’r Wal Goch.

Carfan Cymru

L O’Sullivan (Caerdydd), O Clark (Bristol City), S Middleton-Patel (Man U), H Ladd (Man U), J Green (Caerlŷr), G Evans (Man U), Rh Roberts (Real Betis), C Estcourt (Reading), L Woodham (Reading), E Morgan (Hearts), A Filbey (Crystal Palace), E Powell (Bristol City), S Ingle (Chelsea), A James (Spurs), J Fishlock (OL Reign), R Rowe (Rangers), Ff Morgan (Bristol City), M Wynne (Southampton), Ceri Holland (Lerpwl), E Jones (Sunderland), J Longhurst (Reading), K Green (Charlton Athletic), H Cain (Caerlŷr), C Jones (Bristol City), E Hughes (Crystal Palace), M McAteer (Sunderland)