Yr argraffwyr oedd yn gyfrifol am rifau’n dod oddi ar gefn crysau tîm rygbi Cymru yn ystod y gêm yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn (Hydref 14), yn ôl Undeb Rygbi Cymru.
Yn ôl yr undeb, fe wnaethon nhw droi at gwmni lleol yn Ffrainc gafodd ei argymell gan drefnwyr Cwpan y Byd.
Ond maen nhw’n dweud nad oedd y cwmni “wedi defnyddio’r broses gywir i osod y rhifau” ar y crysau.
Maen nhw’n pwysleisio bod cwmni dillad Macron yn cyflenwi “cit o safon uchel” heb rifau, a bod y broses argraffu’n digwydd ar wahân.
“Doedd gan y gwall ddim byd i’w wneud â safon y crysau na’u cynhyrchu, nac aelod unigol o staff,” meddai’r Undeb.