Mae’r holl lefydd yng nghynhadledd chwaraeon yr Urdd i ferched wedi’u llenwi eleni.
Bydd cynhadledd #FelMerch yn cael ei chynnal dros y penwythnos (Hydref 21 a 22), pan fydd 150 o ferched rhwng 14 a 25 oed yn dod ynghyd yng Ngwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd.
Nod ymgyrch #FelMerch ydy cael gwared ar unrhyw rwystrau sy’n wynebu merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, ac i adlewyrchu hynny, mae’r holl gynhadledd am ddim eleni – gan gynnwys bwyd, llety a thrafnidiaeth.
Cafodd y prosiect ei lansio yn 2021, ac eleni mae’r siaradwyr yn cynnwys y rhedwraig Lowri Morgan; Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru; a chyn-chwaraewr i’r tîm, Helen Ward.
Bydd yna fenywod o feysydd bocsio, gymnasteg, rygbi, athletau, dyfarnu, cyflwyno a maeth a bwyd ymysg dros ugain o siaradwyr fydd yn rhan o’r penwythnos hefyd.
‘Cymrwch y cyfleoedd’
Mae’r ffaith fod yr holl lefydd ar gyfer y gynhadledd wedi’u llenwi’n dangos bod yna alw am ddigwyddiad o’r fath, yn ôl Rhodd-Alaw Parry, Uwch Swyddog Datblygu Chwaraeon yr Urdd.
“Y peth fwyaf pwysig sydd gennym ni eleni ydy ein bod ni wedi’i wneud o am ddim i ferched ar draws Cymru,” meddai wrth golwg360.
“Holl bwynt ymgyrch #FelMerch ydy ein bod ni’n cael gwared ar unrhyw rwystrau sydd gan ferched i gymryd rhan mewn unrhyw beth, a dw i’n meddwl bod hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi’i wneud yn ofnadwy o dda eleni wrth wneud y gynhadledd am ddim eleni.”
Ymysg y siaradwyr eleni mae Dorcas Amakobe o sefydliad Moving the Goalposts, sy’n rhedeg rhaglenni pêl-droed i fenywod a merched yn Kenya.
“Rydyn ni’n trio rhoi llais i bawb sy’n byw yng Nghymru,” ychwanega Rhodd-Alaw Parry.
“Mae o’n gyfle i ni ddathlu merched yng Nghymru, rhoi cyfle i ferched ddod i adnabod pobol ar draws Cymru gyfan a dim jyst pobol sydd yn eu hysgol neu bubble chwaraeon nhw.”
Mae’r penwythnos yn gyfle i ddangos i ferched fod ganddyn nhw gyfleoedd, a’i bod hi’n bwysig cymryd y cyfleoedd, meddai Rhodd-Alaw Parry, sydd wedi bod yn sgwrsio â merched i geisio’u hannog nhw i gymryd rhan.
“Dw i’n gwybod pan dw i wedi bod yn siarad efo merched i hybu nhw i ddod i’r gynhadledd, y peth pwysicaf dw i’n ddweud wrthyn nhw ydy: ‘Cymrwch y cyfleoedd sy’n dod i chi fel merched, maen nhw’n dod yn fwy aml rŵan ond maen nhw dal yn brin’.”
‘Gyrfa mewn chwaraeon’
Ers i’r gynhadledd gael ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl, mae cytundebau proffesiynol wedi cael eu rhoi i rai o chwaraewyr tîm rygbi menywod Cymru, ac mae mwy o bobol nag erioed wedi bod yn mynd i weld gemau pêl-droed tîm cenedlaethol y merched.
“Dw i’n meddwl bod chwaraeon yn gyffredinol ar draws Cymru’n tyfu, dw i’n gweld hynny ar draws bob chwaraeon, ond yn bendant pêl-droed a rygbi,” meddai Rhodd-Alaw Parry wedyn.
“Rydyn ni wedi gweld y cytundebau yn dod drwodd i ferched rŵan, maen nhw’n cael tâl i fod yn athletwyr a ddim yn gorfod gweithio rhan amser i fod yn athletwyr hefyd.
“Mae hwnna’n rhywbeth grêt i ferched weld, bod yna yrfa iddyn nhw rŵan mewn chwaraeon. Dydyn nhw ddim yn gorfod meddwl: ‘Fedra i ddim mynd i’r coleg i wneud chwaraeon achos dw i angen rhywbeth i ddisgyn yn ôl arno, rhag ofn’.
“Does dim rhaid bod yn chwaraewr o reidrwydd – fedrith rywun fod yn hyfforddwr, cyflwynydd, ochr maeth.
“Mae yna weithdai anhygoel yn y gynhadledd i ferched fedru deall bod o ddim i gyd am y chwarae, mae yna gymaint mwy yn mynd mewn i chwaraeon na hynny.”
Mae’r gweithdai hynny’n cynnwys rhannu gwybodaeth ar bynciau fel effaith y cylch misol ar chwaraeon, chwaraeon i bobol ag anableddau, lles a chymhelliant i gadw’n heini, bwyta’n iach, cyfleoedd i wirfoddoli a chymwysterau yn y maes.
‘Cyfle gwych’
Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a bydd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, yn cymryd rhan eleni.
“Dyma gyfle gwych arall i ferched a merched ifanc rannu eu profiadau o chwaraeon a sut maen nhw wedi goresgyn rhai o’r rhwystrau i gymryd rhan,” meddai.
“Mae cynhadledd #FelMerch yn cefnogi ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo mynediad cyfartal i chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad.
“Rwy’n siŵr y bydd y gynhadledd unwaith eto yn ysgogi llawer i ystyried chwaraeon fel gweithgaredd ffordd o fyw a gyrfa, ac i’w grymuso i chwilio a manteisio ar y cyfleoedd i wneud hynny.”