Mae Dr Ian Mitchell, Pennaeth Seicoleg Perfformiad gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi derbyn swydd debyg gyda Newcastle.
Daeth cadarnhad o’i ymadawiad mewn datganiad gan y Gymdeithas Bêl-droed.
Bydd yn cychwyn yn ei swydd newydd ar Dachwedd 21, chwe mis ar ôl dychwelyd i’r Gymdeithas Bêl-droed.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio â thîm y dynion, ynghyd â’i waith gyda llwybrau’r dynion a’r menywod a diwylliant y Gymdeithas Bêl-droed gyfan.
Bu’n gweithio â thîm cenedlaethol yn y gorffennol hefyd, gan gynnwys yn ystod Ewro 2016.
Dywed ei fod e “wedi cyffroi” o gael ymuno â thîm yn Uwch Gynghrair Lloegr sydd hefyd yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Bydd yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd ymgyrch Cymru i gyrraedd Ewro 2024.
‘Llwyfan i ddatblygu arno’
Yn ôl Dr David Adams, Prif Swyddog Pêl-droed y Gymdeithas Bêl-droed, mae Dr Ian Mitchell wedi “rhoi llwyfan i Gymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu ein seicoleg perfformiad ar draws ein timau cenedlaethol”.
“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y maes hwn i gefnogi perfformiad ein hathletwyr ar y cae ac oddi arno,” meddai.
“Bydd Ian yn parhau i gynghori ar agweddau o’n strategaeth perfformiad uwch a chefnogi Rob [Page, rheolwr dynion Cymru] a thîm y dynion yn y misoedd i ddod, wrth i ni barhau â’n taith i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop.”
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi dymuno pob lwc i Dr Ian Mitchell yn ei swydd newydd, gan ddiolch iddo am ei waith.