Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm rygbi menywod Cymru, wedi bod yn canu clodydd y capten Hannah Jones ar drothwy ei hanner canfed cap yng ngêm agoriadol WXV1 yn Seland Newydd ddydd Sadwrn (Hydref 21).

Byddan nhw’n herio Cana yn eu gêm gyntaf erioed yn y twrnament, gyda’r gic gyntaf am 4 o’r gloch.

Cafodd Hannah Jones, 26, ei galw i garfan Cymru am y tro cyntaf yn bymtheg oed, cyn ennill ei chap cyntaf yn y fuddugoliaeth o 39-3 dros yr Alban yn 2015.

Bydd hi’n cadw cwmni i Kerin Lake yng nghanol y cae, gan efelychu’r bartneriaeth sefydlon nhw wrth iddi ennill ei chap cyntaf, ac mae disgwyl iddyn nhw gynnig her gref i Ganada.

Yr un yw’r tîm gurodd yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf erioed fis diwethaf, a hynny o 38-18 yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn.

Un newid sydd ar y fainc, wrth i’r asgellwraig brofiadol Carys Williams-Morris gael ei chynnwys.

Gwobrwyo’r tîm

Yn ôl Ioan Cunningham, roedd e’n awyddus i wobrwyo’r tîm yn dilyn eu buddugoliaeth ddiweddaraf.

“Fe berfformiodd y tîm yn dda yn erbyn yr Unol Daleithiau ym Mae Colwyn fis diwethaf, ac felly maen nhw wedi cael eu gwobrwyo am hynny,” meddai.

“Bydd profiad Carys Williams-Morris a’r dylanwad y bydd hi’n ei gael wrth gamu o’r fainc yn werthfawr ac allweddol iawn hefyd.

“Mae’r holl garfan yn gyffrous iawn ar gyfer y gêm agoriadol hon yn y WXV1, a bydd chwarae yn erbyn un o dimau gorau’r byd yn llinyn mesur da iawn i ni.

“Fe gafodd Canada gêm agos yn erbyn Lloegr yn ddiweddar ac rydyn ni’n gwybod eu bod yn dîm corfforol.

“Wedi dweud hynny, mae’n carfan ni wedi gweithio’n galed iawn wrth baratoi ar gyfer yr ornest yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at chwarae yn y ‘Cake Tin’, fel mae’r stadiwm yn cael ei hadnabod yn lleol.

“Bydd yr achlysur yn un arbennig iawn i Hannah Jones, ei theulu a gweddill y garfan – wrth iddi ennill ei 50fed cap.

“Ers ennill ei chap cyntaf yn groten 16 oed, mae hi wastad wedi dangos ei bod yn arweinydd arbennig ar y cae – ac oddi arno hefyd.

“Dyna un o’r prif resymau pam fod gan bawb gymaint o barch tuag ati.”

Bydd Cymru’n herio Seland Newydd yn Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin ddydd Sadwrn nesaf (Hydref 28), ac Awstralia yn Stadiwm Media Mount Smart yn Auckland ar Dachwedd 3.

Tim Cymru

15. J Joyce, 14. L Neumann, 13. H Jones (capten), 12. K Lake, 11. C Cox, 10. R Wilkins, 9. K Bevan; 1. G Pyrs, 2. C Phillips, 3. S Tu’ipulotu, 4. A Fleming, 5. G Evans, 6. A Butchers, 7. A Callender, 8. B Lewis.

Eilyddion

16. K Jones, 17. A Constable, 18. D Rose, 19. K Williams, 20. S Harries, 21. M Davies, 22. Ll George, 23. C Williams-Morris