Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi dynion Cymru, wedi cyhoeddi’r garfan i herio’r Barbariaid yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar Dachwedd 4 (2.30yp).

Bydd y garfan yn dod ynghyd ar Hydref 30 yng Nghastell Hensol ym Mro Morgannwg i ddechrau ymarfer at y gêm ddi-gap.

Ymhlith y garfan mae 16 o’r chwaraewyr gafodd eu dewis ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc, ynghyd â saith chwaraewr arall, gyda Jac Morgan wedi’i enwi’n gapten.

Yn ôl Warren Gatland, mae e wedi dewis “cymysgedd da o chwaraewyr” mewn carfan lai nag arfer “oherwydd roedden ni eisiau helpu’r rhanbarthau gymaint â phosib drwy beidio â mynd â gormod o’u chwaraewyr nhw oddi arnyn nhw”.

Does dim chwaraewyr sy’n chwarae i glybiau yn Lloegr, Ffrainc na Japan, a hynny am nad ydyn nhw ar gael oherwydd eu hymrwymiadau i’w clybiau.

Dywed Warren Gatland fod y cylch tuag at Gwpan y Byd nesaf eisoes wedi dechrau, a bod potensial y chwaraewyr ifainc yn “destun cyffro”.

Daw hyn ar ôl iddo fe gadarnhau ei ddymuniad i aros yn brif hyfforddwr tan o leiaf Gwpan y Byd 2027, er i Gymru fynd allan o’r twrnament yn Ffrainc ar ôl colli yn erbyn yr Ariannin yn rownd yr wyth olaf.

Cyd-daro â gêm ranbarthol

Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru’n dweud mai camgymeriad oedd cynnal gêm rygbi Cymru yn erbyn y Barbariaid mor agos at gêm ddarbi ranbarthol rhwng y Scarlets a Chaerdydd.

Bydd yr achlysur yn gyfle i ffarwelio ag Alun Wyn Jones, sy’n ymddeol o’r byd rygbi ar ôl ei gêm olaf yng nghrys y Barbariaid.

Ond cwta awr fydd rhwng y ddwy gêm fawr, ac mae cefnogwyr Caerdydd yn cyhuddo Undeb Rygbi Cymru o danseilio’r gêm ranbarthol.

Yn ôl Nigel Walker, cafodd y dyddiad ar gyfer gêm y Barbariaid ei bennu cyn cyhoeddi trefn gemau’r URC, ond mae’n dweud nad yw’n “wych eu bod nhw ar yr un diwrnod” ac na fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto.

Mae’n dweud y dylai Undeb Rygbi Cymru fod wedi mynnu na fyddai cyd-daro rhwng y gemau.


Y garfan

Blaenwyr

C Domachowski, N Smith, E Dee, D Lake, K Assiratti, L Brown, A Beard, B Carter, T Williams, D Lydiate, J Morgan (capten), T Plumtree, A Wainwright

Olwyr

K Hardy, T Williams, S Costelow, C Evans, M Grady, G North, J Williams, R Dyer, L Halfpenny, T Rogers