Mae dau chwaraewr 19 oed wedi llofnodi cytundebau gyda Chlwb Criced Morgannwg fydd yn eu cadw nhw gyda’r sir am o leiaf ddwy flynedd.
Daeth y wicedwr Henry Hurle drwy rengoedd Academi’r sir, gan chwarae i’r ail dîm am y tro cyntaf yn 2022.
Chwaraeodd e dros dîm dan 19 Lloegr yn erbyn Iwerddon ac Awstralia’n gynharach eleni, a bydd e’n treulio’r gaeaf yn chwarae i glwb ym Melbourne.
Roedd Asa Tribe o Jersey yn aelod o dîm Prifysgolion Caerdydd yr UCCE eleni, ac mae e wedi chwarae criced rhyngwladol i’r ynys.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Ail Dîm y Flwyddyn gan Orielwyr San Helen ar ddiwedd y tymor hwn, wedi iddo fe sgorio dau ganred yn olynol a chyfanswm o 456 o rediadau ym mhedair gêm ola’r tymor.
Mae’r cytundebau mae’r ddau wedi’u llofnodi yn galluogi chwaraewyr i gyfuno criced ac astudio, a bydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn y gêm broffesiynol wedyn.
“Mae Henry ac Asa, ill dau, wedi dangos eu doniau dros y tymor, ac rydyn ni wrth ein boddau o fod yn cynnig eu cytundebau cyntaf iddyn nhw gyda’r clwb,” meddai Steve Watkin, hyfforddwr ail dîm Morgannwg.
“Mae’r ddau yn dalentau cyffrous, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu croesawu nhw i’r amgylchedd proffesiynol wrth iddyn nhw barhau i ddatblygu.”