Mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar ferched mewn chwaraeon, yn ôl is-lywydd corff pêl-droed UEFA, ar drothwy cynhadledd #FelMerch yr Urdd.
Bydd yr Athro Laura McAllister, cyn-gapten Cymru, yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r rhedwraig Lowri Morgan yn y digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 21).
Mae’r holl lefydd – 150 ohonyn nhw – wedi’u llenwi ar gyfer y gynhadledd i ferched rhwng 14 a 25 oed yng Ngwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd.
Nod ymgyrch #FelMerch ydy cael gwared ar unrhyw rwystrau sy’n wynebu merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, ac i adlewyrchu hynny, mae’r holl gynhadledd am ddim eleni – gan gynnwys bwyd, llety a thrafnidiaeth.
Cafodd y prosiect ei lansio yn 2021, ac ymhlith y siaradwyr eraill eleni mae Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru; a Helen Ward, prif sgoriwr goliau Cymru.
‘Ysbrydoli merched’
Mae cynhadledd fel hon yn gyfle i egluro pa fath o gyfleoedd sydd ar gael i ferched ifainc, meddai’r Athro Laura McAllister wrth golwg360, gan gynnwys tu allan i gemau traddodiadol fel pêl-droed neu hoci.
“Rydyn ni’n gwybod bod merched eisiau amrywiaeth o gampau, dydy lot o’r campau traddodiadol ddim yn apelio’n naturiol at rai merched felly mae’n bwysig rhoi lot mwy o gyfleoedd ar yr agenda iddyn nhw.
“I fi, mae’n siawns i ysbrydoli merched sydd ddim yn gweld lot o fodelau rôl fel arfer ar y teledu neu yn y cyfryngau felly mae yna siawns i ni gyd ddangos beth rydyn ni’n ei wneud ym myd arweinyddiaeth.
“Mae yna lot o bobol yna, gobeithio, sy’n ysbrydoli merched i wneud tipyn bach mwy – nid jyst i chwarae chwaraeon ond i ymuno ym myd llywodraethu, neu efallai bod yn ddyfarnwr fel Sioned Foster oedd yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd ac Awstralia.”
Bydd cyfle i’r bobol ifanc ofyn cwestiynau i Laura McAllister am arweinyddiaeth ym myd chwaraeon, ynghyd â’r ffyrdd mae UEFA yn mynd i’r afael â’r cynnydd mawr ym myd pêl-droed merched.
‘Pwysicach nag erioed’
Mae clywed lleisiau merched yn bwysicach nag erioed, wedi i Luis Rubiales, Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen, roi sws i un o chwaraewyr tîm menywod y wlad, Jenni Hermoso, ar ei gwefus yn ystod seremoni fedalau.
“Mae pawb wedi gweld y sefyllfa yna a be’ sy’n digwydd wedyn, ac mae yna siawns i ni drafod pethau ynglŷn â llais merched ym myd chwaraeon, a llais menywod, a sicrhau ein bod ni’n trio newid y sefyllfa, sef un ble mae dynion yn rheoli popeth ar hyn o bryd,” meddai’r Athro Laura McAllister.
“Dyna un o fy mlaenoriaethau i ar fwrdd UEFA. Dw i’n gweithio ar ddarn o waith sy’n ymchwilio i ddiwylliant pêl-droed.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod lot am fod i’w newid gobeithio yn y dyfodol, felly mae yna siawns i fi’n arbennig gael dylanwad ar y broses yma a gobeithio ysbrydoli merched yn yr ystafell, yn y gynhadledd i feddwl am wneud pethau ym myd chwaraeon – nid jyst chwarae, ond bod yn aelod o fwrdd, neu fod yn aelod o bwyllgor yn yr ysgol.
“Mae’n bwysig i ni gael clywed a gwrando ar lais merched.
“Dangos y modelau rôl sydd yna [fyddan ni], nid jyst pobol sy’n arwain ond pobol sy’n gwneud pethau arbennig ym maes chwaraeon.
“Mae’r Urdd yn gwneud gymaint o waith aruthrol yn y maes yma, maen nhw mor briliant yn gwneud pethau sy’n apelio at ferched ifainc, felly mae yna siawns i ddangos beth sy’n digwydd.”