Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi penodi Leshia Hawkins, Prif Weithredwr Criced Cymru, yn Rheolwr Gyfarwyddwr â chyfrifoldeb am y gêm ar lawr gwlad.

Mae’r rôl newydd yn disodli swydd Cyfarwyddwr Cyfranogiad a Thwf yr ECB, ac mae’n golygu y bydd Leshia Hawkins yn dod yn aelod o Grŵp Arweinwyr y bwrdd criced sy’n llywodraethu criced yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd.

Bydd hi’n gyfrifol am y strategaeth i annog mwy o bobol i chwarae criced yng Nghymru ac yn Lloegr, gan gynnwys cydweithio â Byrddau Criced, sefydliadau sirol a phartneriaid elusennol er mwyn sicrhau bod modd cyflwyno criced ar lawr gwlad i bob ardal.

Bydd hi hefyd yn cefnogi pwyllgor newydd sydd wedi’i sefydlu i ofalu am griced ar lawr gwlad, gan roi cefnogaeth strategol i Fwrdd yr ECB.

Cafodd Leshia Hawkins ei phenodi i’w swydd gyda Chriced Cymru yn 2020 ar ôl cyfnod yn gweithio i’r ECB mewn swyddi masnachol a datblygu criced.

Mae hi hefyd yn chwarae criced i’r MCC, yn aelod o’u pwyllgor chwarae a threfn gemau, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol o Athletau Lloegr.

Pan gafodd ei benodi gan Griced Cymru, aeth Leshia Hawkins ati i ddysgu Cymraeg.

Yn ôl Richard Gould, Prif Weithredwr yr ECB, Leshia Hawkins oedd “y dewis rhagorol”.

Dyfodol y gêm yng Nghymru

“Dw i’n eithriadol o falch o fod wedi cael cais i dderbyn y rôl yma, yn enwedig ar eiliad mor allweddol i’n gêm,” meddai Leshia Hawkins.

“Dw i’n ymwybodol iawn o’r heriau sydd i ddod, ond dw i hefyd yn gweld cyfleoedd enfawr i dyfu’r gêm ar lawr gwlad ymhellach o ran ei chyrhaeddiad a’i pherthnasedd, ac i danlinellu holl amcanion criced yn y blynyddoedd i ddod.

“Tra fy mod i, wrth gwrs, yn drist iawn o adael swydd, tîm a gwlad dw i’n eu caru, dw i’n gwybod y bydd y gêm yng Nghymru’n parhau i ffynnu fel y mae hi wedi’i wneud, er gwaetha’r heriau allanol niferus dros y pedair blynedd diwethaf.

“Dw i’n teimlo’n hynod freintiedig o fod yn derbyn y swydd newydd hon, a dw i’n edrych ymlaen at chwarae’r rhan fwyaf bosib alla i er mwyn sicrhau bod criced yn gwireddu ei nod o fod y gamp tîm fwyaf cynhwysol yng Nghymru ac yn Lloegr.”