Mae World Rugby, y corff byd-eang sy’n llywodraethu rygbi rhyngwladol, wedi cyhoeddi’r hyn sy’n cael ei alw’r newid mwyaf i’r calendr rygbi rhyngwladol ers dechrau’r oes broffesiynol.

Mewn ymgais i ddiwygio’r gamp ar y lefel ryngwladol, maen nhw am gyflwyno twrnament newydd o 2026 sy’n cynnwys y gwledydd sy’n chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, y Bencampwriaeth Rygbi a nifer o dimau rhyngwladol ail haen hefyd.

Bydd y twrnament newydd yn cynnwys 24 tîm dros ddwy adran o ddeuddeg tîm yr un, gan ychwanegu dyrchafiad a chwymp o 2030.

Bydd yr adran gyntaf yn gyfuniad o dimau’r Chwe Gwlad a’r Bencampwriaeth Rygbi, a dwy wlad arall.

O 2027, bydd Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei ehangu i 24 tîm, yn lle’r 20 fu’n cystadlu yn Ffrainc eleni.

Bydd y twrnament newydd yn cael ei gynnal dros fis Gorffennaf a Thachwedd, a hynny yn lle’r daith haf arferol a gemau rhyngwladol yr hydref.

O ran gêm y merched, fydd dim gorgyffwrdd rhwng gemau clwb a rhyngwladol o 2026.

Yn ôl Syr Bill Beaumont, cadeirydd World Rugby, dyma’r newidiadau “mwyaf arwyddocaol” ers i’r gêm fynd yn broffesiynol.

Timau ail haen

Y gobaith yw y bydd y twrnament newydd yn rhoi cyfle i dimau ail haen serennu, gyda nifer ohonyn nhw eisoes yn creu argraff ar y llwyfan rhyngwladol.

Cyrhaeddodd Ffiji rownd wyth olaf Cwpan y Byd eleni, er iddyn nhw gael eu curo gan Bortiwgal yn eu grŵp – y tro cyntaf i’r wlad honno ennill gêm yn hanes Cwpan y Byd.

Ymhlith y timau eraill greodd argraff yn sgil eu perfformiadau roedd Wrwgwai a Samoa, ond cafodd gwledydd eraill fel Rwmania, Namibia a Chile dwrnament i’w anghofio.

Mae Covid-19 a phrinder gemau ar y lefel uchaf ymhlith y rhesymau sydd wedi’u cynnig am y colledion trwm ddioddefodd nifer ohonyn nhw.