Bu farw Syr Bobby Charlton yn 86 oed dros y penwythnos, ac mae dau sy’n cofio’i weld yn chwarae pêl-droed yn Nyffryn Nantlle wedi bod yn hel atgofion am y diwrnod wrth siarad â golwg360.

Daeth tîm o sêr pêl-droed, gan gynnwys Bobby Charlton a Gordon Banks, i chwarae yn erbyn tîm pêl-droed Dyffryn Nantlle ym Maes Dulyn ym Mhenygroes yn 1976.

Roedd y pêl-droediwr yn arwr i Manchester United, ac yn rhan o dîm Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 1966.

Yn ystod gyrfa 17 mlynedd o hyd gyda Man U, chwaraeodd o 758 o gemau gan sgorio 249 o goliau.

A Bobby Charlton oedd sgoriwr naw o goliau’r tîm o sêr wnaeth guro Dyffryn Nantlle o 11-8 y diwrnod hwnnw ym mis Medi 1976 ar Gae Fêl.

‘Gŵr bonheddig’

Roedd Neil Thomas tua phymtheg oed ar y pryd, ac fel cefnogwr United mawr roedd y gêm ym Mhenygroes yn dipyn o achlysur iddo.

“Roedd pawb wedi gwirioni bod y fath chwaraewyr, Gordan Banks a Bobby Charlton yn eu plith, wedi dod i gae Nantlle Vale,” meddai’r gŵr o Ddyffryn Nantlle sydd bellach yn byw yn Rhosbodrual ger Caernarfon, wrth golwg360 wrth edrych yn ôl.

“Roeddwn i wedi bod yn edrych ymlaen am y gêm ers wythnosau efo ffrindiau ysgol, ac roedd cyfnither i fi wedi gwneud llun o Bobby Charlton efo pensel a gefais i fo i arwyddo hwnnw yn y gêm.”

Cartŵn Anwen Rowlands, cyfnither Neil, o Bobby Charlton

“Roedd hi’n oes aur, fyswn i’n galw fo – George Best, Denis Law a Bobby Charlton,” meddai.

“Y pleser mwyaf oedd cael gweld o’n sgorio’r holl goliau, naw gôl ar y diwrnod hwnnw yng Nghae Fêl, a doedd yna’r un ohonyn nhw’n tap in, roedden nhw i gyd o ryw bum-llath-ar-hugain i gongl uchaf y rhwyd. Goliau gwych!

“Doedd dim llawer o ots gen i am ’66 – ’68 oedd pwysicaf gen i fel cefnogwr United.”

Enillodd Manchester United Gwpan Ewrop yn 1968, a Bobby Charlton yn sgorio dwy gôl yn y gêm fawr.

“Y crysau oedden nhw’n wisgo’r diwrnod hwnnw, ychydig o flynyddoedd wedyn gaethon nhw eu pasio lawr i ni fel chwaraewyr Nantlle Vale,” meddai Neil Thomas.

“Mi ddaru fi sicrhau fy mod i’n gwisgo’i grys o efo’r hoel chwys dal arno fo a bob dim!”

Cafodd o gyfarfod Bobby Charlton ar ôl hynny, gan gynnwys ar daith o amgylch cae Old Trafford pan oedd Manchester United yn dathlu eu canmlwyddiant yn 1979.

“Roedd o’n ŵr bonheddig, yn cymryd diddordeb ym mhawb. Doedd yna ddim byd mawr amdano fo o gwbl, roedd o’n hynod fel yna.”

‘Dipyn o achlysur’

Un arall sydd â chof plentyn o’r achlysur ydy Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor – a chyn-chwaraewr, cadeirydd a rheolwr yn Nantlle Vale.

“Dw i’n cofio bod o’n ddiwrnod prysur ofnadwy ac roeddwn i wedi clywed am yr enwau byd-enwog yma’n dod i Fêl,” meddai’r gŵr oedd tua chwech oed ar y pryd wrth golwg360.

“Roeddwn i’n mynd lawr i watsiad Nantlle Vale efo fy nhad bob dydd Sadwrn beth bynnag.

“Mae gen i’r cof plentyn yna o gyrraedd y cae ac afon o bobol yn tyrru mewn i’r cae.”

Daeth tua 1,500 o bobol i Gae Fêl i weld y gêm, ac fel yr eglura Aled Jones-Griffith, Freddie Pye – pêl-droediwr amatur fu’n gadeirydd ar glwb pêl-droed Stockport County – oedd wedi llwyddo i drefnu’r gêm.

“Roedd yna gyswllt rhwng y clwb a Freddie Pye, roedd o’n delio mewn sgrap ochrau Manceinion, ac roedd o wedi bod yn gwneud efo’r tîm yn Nantlle Vale, ac roedd o wedi gallu perswadio’r rhain i ddod draw i gynnal gêm i godi arian.

“Roedd o’n dipyn o achlysur. Ar y pryd, roedd gen ti Gordon Banks a Bobby Charlton, ac roedden nhw wedi bod yng Nghwpan y Byd yn 1966.

“Naw mlynedd wedyn, roedden nhw’n rhedeg o gwmpas ar gae mwdlyd Maes Dulyn.

“Roedd gen ti bobol fel Arfon Griffiths oedd yn Wrecsam, roedd o hefyd yn dod draw.

“Roedd gen ti griw go lew yno o bobol adnabyddus, a dw i ddim yn meddwl welwn ni fyth y fath beth yng Nghae Fêl eto.”

Mae’n debyg mai’r peth agosaf mae Maes Dulyn wedi’i weld i’r gêm yn 1976 oedd y frwydr fawr rhwng C’mon Midffîld! a Pobol y Cwm yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Nantlle yn 1990.

“Dw i wedi bod yno mewn dwy frwydr fawr pan oedd C’mon Midffîld! yn chwarae Pobol y Cwm – gaethon nhw gêm yn ystod 1990 a gaethon nhw un fwy diweddar,” meddai Aled Jones-Griffith.

“Er bod yna fwy o bobol, fyswn i’n ddweud, yn rheiny, roedd y chwaraewyr pêl-droed oedd yno yn 1976 yn chwaraewyr pêl-droed o ansawdd – dim Tecs a Gwyn Elfyn a rheiny!

“O ran digwyddiad chwaraeon, mae’n debyg bod cael yr enwau byd-enwog yma ar y pryd yn dod i Gae Fêl yn dipyn o gaffaeliad.”