Mae Rhun ap Iorwerth yn galw am gefnogaeth arweinwyr pleidiau’r Senedd i sicrhau bod modd i bawb wylio gemau rygbi Cymru yn rhad ac am ddim.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, mae “pryderon cynyddol” am nifer y gemau sydd bellach yn cael eu darlledu y tu ôl i wal dalu.

Mae rhai digwyddiadau chwaraeon eisoes wedi’u gwarchod rhag cael eu darlledu tu ôl i wal dalu, gan gynnwys Cwpan Rygbi’r Byd, ond mae pryderon y gallai cefnogwyr orfod talu i’w gwylio nhw yn y dyfodol.

Dywed Rhun ap Iorwerth fod “angen adlewyrchu pwysigrwydd y gêm i ni yng Nghymru drwy allu darlledu digwyddiadau chwaraeon mawr ar deledu rhad ac am ddim”.

Ers 2020, bu’n rhaid talu i wylio gemau hydref Cymru ar Amazon Prime, ac mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon y gallai Cwpan y Byd ddilyn yn y dyfodol.

Daw hyn ar ôl i Syr John Whittingdale, Gweinidog Digidol, y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon San Steffan, ymddangos gerbron y Senedd yn ddiweddar.

Apêl drawsbleidiol

Ar X (Twitter gynt), dywed Rhun ap Iorwerth ei fod e wedi ysgrifennu at arweinwyr pleidiau’r Senedd yn gofyn am gefnogaeth i’w lythyr “yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i edrych eto ar y mater o ddigwyddiadau rhestredig sydd ynghlwm â’r hawliau”.

Ymhlith y digwyddiadau rhestredig mae Cwpan Rygbi’r Byd, Cwpan y Byd Pêl-droed, y Gemau Olympaidd a thwrnament tenis Wimbledon.

“Mae angen anfon neges bwerus, unedig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig bod y Senedd gyfan yn cefnogi sicrhau bod pob gêm rygbi fawr ar gael ar deledu rhad ac am ddim, a thrwy hynny yn cynnal yr egwyddor bod chwaraeon yn perthyn i bawb yng Nghymru!” meddai Rhun ap Iorwerth.