Mae Leigh Halfpenny wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol, ar ôl ennill 101 o gapiau dros Gymru.

Y gêm yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd fydd gêm ola’r cefnwr yn y crys coch.

Dywed ei fod yn camu i ffwrdd o’r llwyfan rhyngwladol “â chalon drom ar ôl cael amser i ystyried ar ôl yr ymgyrch Cwpan y Byd”, ac y bu’n “fraint ac anrhydedd” cael gwisgo’r crys coch dros gyfnod o bymtheg mlynedd.

Dywed mai ei freuddwyd wrth chwarae i dîm Gorseinon yn Abertawe oedd y byddai’n cael cynrychioli ei wlad ryw ddiwrnod, ac y bydd yn edrych yn ôl ar ei yrfa ryngwladol “â balchder eithriadol”.

Gyrfa

Mae Leigh Halfpenny, sy’n chwarae fel cefnwr ac asgellwr, yn un o griw dethol o chwaraewyr Cymru i ennill dros gant o gapiau – dim ond chwech sydd wedi ennill mwy o gapiau yn y crys coch.

Chwaraeod e bedair gwaith i’r Llewod yn 2013, pan gafodd ei enwi’n chwaraewr y gyfres yn Awstralia, a 2017.

Mae e wedi sgorio 801 o bwyntiau dros Gymru, ac mae’n drydydd ar y rhestr y tu ôl i Neil Jenkins (1,049) a Stephen Jones (917).

Yn ôl Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru, Leigh Halfpenny “fwy na thebyg yw’r cefnwr amddiffynnol gorau yn y byd”, ac mae e wedi canmol ei gicio at y gôl a’i broffesiynoldeb yn wynebu llu o anafiadau hefyd.

Cododd Halfpenny drwy rengoedd Cymru, gan chwarae i’r tîm dan 20 ochr yn ochr â Dan Biggar, Jonathan Davies, Justin Tipuric, Sam Warburton a Rhys Webb.

Cyrhaeddodd y tîm dan 19 y pedwerydd safle yng Nghwpan y Byd 2007, a’r tîm dan 20 y pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth Rygbi’r Byd gyntaf erioed y flwyddyn ganlynol pan oedd Halfpenny yn aelod allweddol o’r tîm.

Roedd yn aelod o academi’r Gweilch cyn ymuno â Gleision Caerdydd yn 2007-08, ac fe chwaraeodd e 19 o weithiau i Gaerdydd a sgorio 178 o bwyntiau cyn chwarae ei gêm ranbarthol gyntaf yn 2008.

Enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn De Affrica yn 2008 hefyd, gan ymddangos yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf yn erbyn yr Alban y flwyddyn ganlynol, gan sgorio cais yn erbyn Lloegr hefyd.

Halfpenny oedd y chwaraewr ieuengaf yng ngharfan y Llewod i Dde Affrica yn 2009, ond daeth ei daith i ben ag anaf i’w benglin, ond cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Sgoriodd e 66 o bwyntiau wrth i Gymru ennill y Gamp Lawn yn 2012, a 74 pwynt y flwyddyn ganlynol wrth iddyn nhw ennill y Bencampwriaeth unwaith eto ac fe gafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Twrnament.

Cafodd ei ddewis yng ngharfan y Llewod unwaith eto yn 2013, gan sgorio 49 o bwyntiau yn y gyfres (gydag 89% o giciau cywir) gan drechu record Neil Jenkins, ac fe dorrodd e record arall wrth sgorio 21 o bwyntiau yn y prawf olaf.

Cafodd ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru y flwyddyn honno, a daeth yn ail yn y seremoni Brydeinig y tu ôl i Andy Murray.

Roedd e’n aelod o garfan y Llewod unwaith eto yn 2017, gan ddod i’r cae yn eilydd yn y prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd.

Bu’n rhaid iddo fethu Cwpan y Byd 2015 ag anaf, ond fe enillodd ei ganfed cap rhyngwladol – gan gynnwys pedwar dros y Llewod – yn erbyn Canada yn 2021, ond bu’n rhaid iddo fe adael y cae ar ôl munud ag anaf i’w benglin, gan ddychwelyd yr hydref canlynol yn erbyn Georgia.

Chwaraeodd e yn y Chwe Gwlad yn gynharach eleni cyn cael ei enwi yn y garfan i deithio i Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd, gan ennill ei ganfed cap yn erbyn Lloegr mewn gêm baratoadol.