Mae Prem Sisodiya, y troellwr llaw chwith o Gaerdydd, a’r bowliwr Andy Gorvin wedi ymestyn eu cytundebau gyda Chlwb Criced Morgannwg.
Daeth Sisodiya, sydd wedi cynrychioli tîm dan 19 Lloegr, yn aelod allweddol o’r tîm undydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae e wedi cipio 40 o wicedi ugain pelawd ar gyfradd o wyth rhediad y belawd.
Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd.
Mae Gorvin yn aelod o’r tîm undydd ers 2021, ac o dîm y Bencampwriaeth ers 2022, a bu’n gapten ar dîm Sain Ffagan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, lle denodd e sylw Morgannwg.
Mae e wedi ymestyn ei gytundeb am dymor arall.
‘Fy nghlwb er pan oeddwn i’n fachgen bach’
Dywed Prem Sisodiya ei fod yn falch iawn o gael ymestyn ei gytundeb gyda’r clwb y bu’n ei gefnogi er pan oedd e’n “fachgen bach”.
“Dw i wedi fy magu yn dymuno cynrychioli Morgannwg, felly dw i’n ddiolchgar o’r cyfle i barhau â hynny am ddwy flynedd arall,” meddai.
“Roedd y tymor diwethaf yn gymysg oll i gyd i fi.
“Ro’n i’n falch iawn o gael chwarae fy ngêm bêl goch gyntaf ers sbel, ond byddwn i wedi hoffi cyfrannu mwy yn y cystadlaethau T20 a 50 pelawd, yn enwedig T20 gan mai dyna fy mhrif fformat dros y blynyddoedd diwethaf.”
Andy Gorvin eisiau gwella
Dywed Andy Gorvin ei fod e eisiau manteisio ar y paratoadau dros y gaeaf i wella’i sgiliau ar gyfer y tymor nesaf.
“O safbwynt personol, roedd hi’n wych cael chwarae ym mhob un o’r tri fformat i’r tîm cyntaf yr haf yma, a chael profiad pwysig mewn llawer o sefyllfaoedd gwahanol,” meddai.
“Dw i am geisio gwella eto y gaeaf hwn, a bod yn barod i gael effaith mewn gemau haf nesaf.”
‘Aelodau poblogaidd o’r garfan’
Dywed Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, ei fod yn “newyddion da” fod y ddau wedi ymestyn eu cytundebau.
“Maen nhw, ill dau, yn aelodau poblogaidd iawn o’r ystafell newid, ac yn awyddus i ddysgu a gwella, a helpu i wthio’r clwb yn ei flaen.
“Rydym yn edrych ymlaen at gyfraniadau’r ddau ar y cae ac oddi arno yn y dyfodol.”
Cytundeb proffesiynol cyntaf i Gymro ifanc
Yn y cyfamser, mae’r batiwr a wicedwr ifanc Will Smale wedi llofnodi ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r sir fydd yn ei gadw e gyda nhw am o leiaf ddwy flynedd.
Fe wnaeth y chwaraewr 22 oed greu argraff yn y gemau ugain pelawd ac i’r ail dîm eleni, gyda’i gêm gyntaf i Forgannwg yn dod yn erbyn Surrey ar yr Oval, lle sgoriodd e 27 oddi ar 16 o belenni wrth agor y batio.
Dywed fod y gêm honno’n “brofiad anhygoel”.
Mae e wedi diolch i’w dad-cu, yr hyfforddwr ieuenctid ysbrydoledig Malcolm Price, am danio’r brwdfrydedd ynddo i fod yn gricedwr.
“Mae Will yn llwyr haeddu ei gytundeb proffesiynol cyntaf drwy waith caled a gwelliant parhaus drwy griced llwybrau, y brifysgol a’r ail dîm,” meddai Mark Wallace.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at yr hyn y gall e ddod ag e i’r garfan, ac at ei weld e’n datblygu ymhellach dros y tymhorau nesaf.”