Mae Darren Thomas, prif hyfforddwr tîm criced Siroedd Cenedlaethol Cymru, wedi camu o’r neilltu ar ôl unarddeg o flynyddoedd wrth y llyw.

Cafodd ei benodi yn 2011, yn wreiddiol fel chwaraewr a hyfforddwr, cyn ymddeol o’r cae chwarae yn 2016.

Sgoriodd e 1,310 o rediadau ar gyfartaledd o 28.47 mewn 32 o gemau yn y Bencampwriaeth, gan daro chwe hanner canred.

Mewn gemau undydd, sgoriodd e 376 o rediadau mewn gemau 50 pelawd ar gyfartaledd o 26.85.

Roedd e wrth y llyw wrth i Siroedd Cenedlaethol Cymru gyrraedd rownd wyth ola’r gwpan undydd bedair gwaith (2011, 2013, 2015 a 2022), a’r rownd gyn-derfynol yn 2021.

Y tymor diwethaf, cafodd y penderfyniad ei wneud i hollti swydd y prif hyfforddwr rhwng y Bencampwriaeth a’r gemau undydd, gyda Brad Wadlan yng ngofal y gemau hir.

Bydd Brad Wadlan bellach yn gyfrifol am y tîm ym mhob fformat.

‘Penderfyniad anodd iawn’

Dywed Darren Thomas fod y penderfyniad i gamu o’r neilltu wedi bod yn un “anodd iawn”, a bod ei ffocws erioed ar “gynnig cyfleoedd i ddatblygu chwaraewyr ifainc i chwarae i Forgannwg”.

“Mae llwyfan y siroedd cenedlaethol yn darparu criced anodd i’r chwaraewyr hynny ac yn rhoi mewnwelediad iddyn nhw i bincal criced hamdden,” meddai.

“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi gweld nifer o chwaraewyr yn mynd yn eu blaenau i gynrychioli’r daffodil [Morgannwg], sy’n dangos ein bod ni wedi cynorthwyo â’r symudiad hwnnw o’r llwybrau, yr academi a’r brifysgol i mewn i griced proffesiynol.”

‘Angerdd ac ymroddiad’

Mae Matt Dando-Thompson, Pennaeth Llwybrau Talent Criced Cymru, wedi talu teyrnged i “angerdd ac ymroddiad” Darren Thomas.

“Mae Darren wedi ymroi’n anhygoel i Siroedd Cenedlaethol Cymru dros y blynyddoedd,” meddai.

“Mae ei angerdd a’i ymroddiad wedi bod yn ffactorau enfawr o ran pam fod gan Gymru ei henw balch am ddatblygu chwaraewyr i gamu i mewn i griced proffesiynol, a dw i heb ddod ar draws llawer o bobol sy’n poeni mwy am fod eisiau i griced Cymru ffynnu.

“Ers i Griced Cymru gymryd drosodd y strwythur siroedd cenedlaethol yng Nghymru, rydyn ni wedi gallu mwynhau cyfnod llwyddiannus iawn, ac mae proffesiynoldeb, sylwgarwch ac ysfa Darren wedi hwyluso cryn dipyn o hyn.

“Dylai edrych yn ôl â balchder ar yr hyn mae e wedi gallu ei gyflawni a’r rhan mae e wedi’i chwarae yn natblygiad nifer o bobol ar y cae ac oddi arno.

“Roedden ni bob amser yn gwybod y byddai dod o hyd i eilydd ar gyfer Darren yn anodd – roedden ni angen rhywun â phrofiad fel chwaraewr, ond hefyd fel hyfforddwr – rhywun â sbarc gwirioneddol i fynd â ni hyd yn oed ymhellach.

“Daeth yn eithaf clir mai Brad [Wadlan] yw’r person hwnnw.

“Nid yn unig mae ei record ar y cae yn adrodd cyfrolau ar lefel y siroedd cenedlaethol, ond mae e’n deall yr hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud, ac mae e’n angerddol dros ben am fod eisiau gadael ei ôl yn barhaus ar y tîm am flynyddoedd i ddod.

“Dw i wrth fy modd ei fod e wedi ymrwymo i ni am y tri thymor nesaf, ac alla i ddim aros i weld i le mae e’n mynd â ni.”