Mae darlithydd gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam wedi cael ei ddiswyddo am honni bod arwyddion ffordd dwyieithog yn “beryglus”.

Mae llefarydd ar ran y brifysgol wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod nhw “wedi dod â’u trefniadau ymweld â’r Athro [Nigel] Hunt i ben”.

“Nid oes ganddo berthynas gyda’r brifysgol bellach,” meddai.

Tynnodd yr Athro Nigel Hunt nyth cacwn am ei ben yn dilyn ei sylwadau ar grŵp Facebook, wrth iddo ddweud bod arwyddion dwyieithog yn “ddryslyd” gan eu bod nhw’n llawn “gwybodaeth amherthnasol – ac i’r rhan fwyaf o bobol – annealladwy”.

Roedd yn mynnu bod arwyddion dwyieithog yn “beryglus gan ei bod yn cymryd yn hirach i ddeall y neges”, gan ychwanegu nad yw’r “rhan fwyaf o bobol yng Nghymru hyd yn oed yn deall yr arwyddion hyn”.

Wrth ymhelaethu ar y pwnc, fe wnaeth e honni bod “yr iaith Gymraeg yn dirywio er gwaetha’r ymgais i’w phoblogeiddio”.

Dywedodd fod y Gymraeg yn “iaith farw” sy’n “annhebygol o oroesi” heb gefnogaeth, gan fynnu nad oes ganddi’r gefnogaeth honno ar raddfa fawr.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymddiheuro am y sylwadau, gan ddweud nad yw ei farn “yn cyd-fynd â safbwyntiau na gwerthoedd y brifysgol na’i staff”, ac roedden nhw wedi cadarnhau bod ymchwiliad mewnol ar y gweill.

Mae’r Athro Nigel Hunt wedi gwrthod ymddiheuro am y sylwadau sydd, meddai, “yn adlewyrchu’i gredoau”, ond mae e wedi ymddiheuro am “y ffordd y daeth y sylwadau hyn i’r golwg”.

Ond mae’n dweud iddo gael ei “siomi” gan ymateb pobol i’w sylwadau, a bod rhywrai yn dweud ei fod yn “hiliol”.

“Rhydd i bawb ei farn,” meddai, gan gynnwys barn nad yw’n cyd-fynd â safbwynt y brifysgol.

Ar ei dudalen Linkedin erbyn hyn, mae’n nodi ei fod wedi’i ddiswyddo “am fod â barn ar sail tystiolaeth sy’n wahanol i safbwynt swyddogol y brifysgol”, a’n bod ni’n “byw mewn amseroedd peryglus”.

Prifysgol Wrecsam yn ymchwilio i sylwadau “gwrth-Gymraeg” athro

Rhannodd Dr Nigel Hunt, athro gwadd yn y brifysgol, y sylwadau mewn grŵp ar Facebook, ynghyd â llun o arwydd dwyieithog