Fe wnaeth y Wyddeleg deithio pellter o 125,000km am 74 awr yn barhaus dros dri chyfandir, fel rhan o gyfres o sgyrsiau ar-lein i hybu’r iaith.
Nod yr ymgyrch #Comhrá23 yw hyrwyddo’r iaith yn Iwerddon ac ar draws y byd, gan roi’r cyfle i bobol siarad yr iaith ymhlith eu ffrindiau a’r gymuned ehangach ar y we.
Daeth yr ymgyrch i ben yng Nghanada, lle bu aelodau o gymuned Craobh Thorontó, sy’n rhan o Conradh na Gaeilge, yn defnyddio’r iaith.
Yn ôl Brónagh Fusco, cydlynydd Comhrá ’23, roedd y digwyddiad yn “llwyddiant mawr wrth wireddu nod yr ymgyrch eleni o danio sgwrs as Gaeilge (yn yr iaith Wyddeleg) yn Iwerddon ac ar draws y byd”.
“Cafodd cyfeillgarwch ei greu, a chafodd cysylltiadau eu magu rhwng grwpiau, a chafodd y cyhoedd gyfle i ddefnyddio’r iaith Wyddeleg mewn ffordd unigryw a chreadigol,” meddai.
Pwysigrwydd byd-eang yr iaith Wyddeleg
Mae Pa Sheehan o Craobh Toronto Conradh na Gaeilge yn dweud bod y digwyddiad wedi bod yn gyfle i dynnu Gwyddelod o bedwar ban byd ynghyd.
“Rydyn ni wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedden ni’n hapus i helpu i hyrwyddo cyfleoedd i gysylltu â Gwyddelod o amgylch y byd ac i hybu’r Wyddeleg yn Toronto,” meddai.
“Hoffem longyfarch pawb gymerodd ran yn Comhrá eleni ac a oedd wedi helpu i gyfleu pwysigrwydd byd-eang yr iaith Wyddeleg, gan rannu cariad at ein hiaith gyda’r gymuned ehangach.”
‘Cyfle gwych i sgwrsio â phobol newydd yn ein mamiaith’
Mae Carla Ní Raghallaigh, ysgrifennydd Cumann Gaelach DCU, yn croesawu’r “cyfle gwych i sgwrsio â phobol newydd yn ein mamiaith”.
“Roedd hi’n fraint ymuno â chymdeithasau colegau eraill mewn ymdrech fel grŵp i barhau â sgwrs ddi-baid, nid yn unig yn Iwerddon ond o amgylch y byd!” meddai.
Digwyddiad blynyddol yw Comhrá, a chaiff ei drefnu gan ddefnyddio cyllid gan Foras na Gaeilge.