Mae nifer y disgyblion sy’n parhau ag addysg Gymraeg yng Ngwent yn is na’r targed sydd wedi’i osod fel rhan o’r uchelgais i gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’n rhaid bod gan bob cyngor yng Nghymru Gynllun Strategol Addysg sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi’r targed cenedlaethol, ac fe ddechreuodd rhaglen ddeng mlynedd Torfaen fis Medi y llynedd.
Yn ôl y ddogfen, o fewn pum mlynedd fe ddylai 100% o ddisgyblion cynradd Cymraeg y sir fod yn symud yn eu blaenau i addysg uwchradd Gymraeg.
Ond mae adolygiad y Cyngor o flwyddyn gynta’r cynllun addysg Gymraeg yn dangos mai 103 yn unig allan o 122 o ddisgyblion oedd y ffigwr fis Medi 2021, mewn tair ysgol gynradd – sy’n cyfateb i 84%.
Roedd cynnydd i 86% y mis Medi canlynol, gydag 88 allan o 102 o ddisgyblion y tair ysgol yn symud yn eu blaenau i addysg uwchradd.
Torfaen
Cynyddodd y ddarpariaeth Gymraeg yn Nhorfaen fis Medi 2022, ar ôl i Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw ailagor ym Mhont-y-pŵl fel ysgol i ddisgyblion tair i 19 oed.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith mai un cais mynediad fydd ei angen bellach ar gyfer hyd oes y plentyn yn yr ysgol.
Erbyn mis Ionawr eleni, roedd 119 o blant dosbarth derbyn ym mhedair ysgol gynradd Gymraeg Torfaen, allan o 1,005 o blant ar draws y sector cynradd, sy’n cyfateb i 11.84%.
Mae hynny’n golygu bod y sir islaw eu targed o 16.3% o ddisgyblion Derbyn cyfrwng Cymraeg erbyn diwedd y pum mlynedd yn 2027.
Dywedodd Andrew Powles, Pennaeth Addysg y Cyngor, wrth y pwyllgor craffu ar addysg ei fod e wedi nodi “gostyngiad” mewn disgyblion yn symud o ysgolion cynradd Cymraeg i ysgolion uwchradd Cymraeg, gan ddweud bod hynny’n “rywbeth rydyn ni’n cadw llygad barcud arno, ac yn cydweithio’n agos â phrifathrawon yn ei gylch”.
Gofynnodd y Cynghorydd Jayne Watkins, cynghorydd Llafur yn Fairwater, a ddylid addasu’r targedu pum mlynedd a deng mlynedd gan fod y ffigwr gwaelodol ar gyfer 2020 o 96.3% o ddisgyblion cynradd yn symud i addysg uwchradd Gymraeg yn seiliedig ar ffigurau cyn y pandemig.
Ond fe wnaeth Andrew Powles wfftio hynny.
“Fydd y targedau ddim yn cael eu haddasu, ac maen nhw wedi’u cytuno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’n cynllun deng mlynedd,” meddai.
“Gadewch i ni beidio â gostwng ein huchelgais.
“Mae gennym ni ysgolion cryf iawn, a dw i ddim yn gweld rheswm nac angen i ostwng y targed hwnnw.
“Dw i’n hapus i’w gadw fel ag y mae.”
Heriau
Mae gan y Cyngor gyllid grant am dair blynedd i redeg rhaglen drochi yn y Gymraeg, ar gyfer hyd at ddeuddeg o ddisgyblion bob tymor, o’r enw Carreg Lam yn Ysgol Panteg, sy’n darparu cefnogaeth ddwys i ddisgyblion Blynyddoedd 2 a 6 gael trosglwyddo i addysg Gymraeg.
Nododd yr adroddiad hefyd fod canran y disgyblion yn Ysgol Gwynllyw symudodd i’r Chweched Dosbarth yn 2020, 2021 a 2022 “yn dangos tuedd cynyddol ar y cyfan”.
Neidiodd y ffigurau o 29.19% yn 2020 i 40.87% y flwyddyn ganlynol, ond fe gwympodd i 33.33% fis Medi 2022.
Mae’r heriau gaiff sylw yn yr adroddiad yn cynnwys problemau recriwtio athrawon a staff gofal blynyddoedd cynnar sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda Gwyddoniaeth wedi’i nodi fel her benodol.
Dywedodd Andrew Powles fod denu athrawon yn broblem genedlaethol, ond fod ysgolion Panteg a Gwynllyw wedi datblygu eu dulliau eu hunain i fynd i’r afael â hynny.
Mae’r ysgol gynradd wedi cynnig cyfleoedd “blwyddyn allan” i fyfyrwyr neu’r sawl sy’n ystyried newid eu gyrfaoedd i weithio yn yr ysgol, tra bod Gwynllyw wedi cynnig hyfforddiant i athrawon heb gymhwyster sy’n cael eu cyflogi.
Caiff cyn-ddisgyblion eu gwahodd i’r ysgol hefyd i rannu eu profiadau ac i hybu cyfleoedd am yrfaoedd.
Clywodd y pwyllgor hefyd fod y cynllun yn anelu i gynyddu darpariaeth Gymraeg ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Yn ôl Gareth Edwards, Pennaeth Anghenion Ychwanegol y Cyngor, mae’r ffigurau’n dangos llai o alw mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd fod ysgol Gymraeg newydd yng Nghaerffili oedd wedi agor y llynedd wedi darparu ar gyfer dosbarth arbenigol, ond doedd dim galw amdano o ganlyniad i ddiffyg galw ehangach yng Ngwent.
Dywedodd Gareth Edwards ei bod hi’n bosib fod rhai rhieni sydd â Saesneg yn iaith gyntaf yn ystyried y Gymraeg fel “rhwystr ychwanegol” os oes gan eu plant anghenion ychwanegol.
Clywodd y pwyllgor y gallai hynny olygu nad yw rhieni’n dewis addysg Gymraeg, neu eu bod nhw’n symud eu plant i addysg Saesneg.
Dywedodd Gareth Edwards “nad yw’r Cyngor yn gwthio” y neges honno, ac mai ei rôl yw “cefnogi teuluoedd”.
Bydd y pwyllgor yn argymell cynllun cyfathrebu yn y strategaeth i hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r cyfleoedd gyrfa, gan gynnwys dysgu, a bod angen ystyried cefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.